Dan arweiniad yr artist Tim Pugh, bydd cyfle i’r rhai sy’n cymryd rhan greu fanzine map lluniadu wedi’i ysbrydoli gan themâu morol – ac wedyn mynd â’r fanzine adra i’w orffen.

Bydd Tim yn dod â deunyddiau celf a mapiau papur i’w plygu a llunio ynddyn nhw, yn ogystal â delweddau sy’n gysylltiedig â’r môr i roi syniadau ac ysbrydoliaeth. Bydd Tim wrth law i helpu efo syniadau a rhoi ambell awgrym, ac mae’r gweithdy’n anelu at fod yn gyfle hamddenol a chreadigol i bawb, beth bynnag yw’r lefel – gyda’r pwyslais ar fwynhau lluniadu a’r broses ei hun.

Bydd siaradwyr Cymraeg ar gael i unrhyw un sydd eisiau cyfathrebu’n drwy’r gymraeg

ARCHEBWCH YMA