{"id":1265,"date":"2021-08-11T14:48:53","date_gmt":"2021-08-11T13:48:53","guid":{"rendered":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/?page_id=1265"},"modified":"2021-08-11T14:48:55","modified_gmt":"2021-08-11T13:48:55","slug":"jt-parry-ap-idwal-1853-1913-yr-arlunydd-ai-ddeunyddiau","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/jt-parry-ap-idwal-1853-1913-yr-arlunydd-ai-ddeunyddiau\/","title":{"rendered":"JT Parry (Ap Idwal) (1853-1913): &#8216;YR ARLUNYDD A&#8217;I DDEUNYDDIAU&#8217;"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae J.T. Parry yn ymddangos yn rhestrau&#8217;r cyfrifiad fel arlunydd \/ arlunydd tirluniau. Felly, roedd un ai yn gwerthu digon o&#8217;i waith i ennill bywoliaeth resymol a chynnal teulu neu cefnogwyd ei waith celf gan gyflogaeth arall. Daw ei weithiau dyddiedig hysbys o&#8217;r 1880au hyd at ei farwolaeth, ond mae\u2019r ysbrydoliaeth i ddarlunio Plasty Coetmor yn deillio o&#8217;r amser cyn ei ddymchwel yn 1870. Nid ef yw&#8217;r unig arlunydd oedd yn gweithio yn yr ardal neu a fabwysiadodd ffugenw Cymraeg i arwyddo ei weithiau;&nbsp;mae Peter&nbsp;Lord&nbsp;wedi dogfennu llawer o&#8217;r arlunwyr cyfoes&nbsp;teithiol a&nbsp;medrus yng ngogledd Cymru fel William&nbsp;Roos&nbsp;a Hugh Hughes yn ei astudiaethau. Artist arall \u2018heb ei hyfforddi\u2019, oedd J.J. Dodd oedd yn gweithio ym Mangor, fu&#8217;n arddangos ei waith yn Arddangosfa\u2019r Celfyddydau Cain a Diwydiannol yn Neuadd Penrhyn (1869) ac fel \u2018Arlunydd Gwalia\u2019 yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor (1874). Yn yr 1880au, roedd gan y g\u0175r mentrus Hugh Humphreys, Oriel Celf&nbsp;Gain&nbsp;yng Nghaernarfon oedd yn gwerthu printiau poblogaidd o bortreadau a golygfeydd yng&nbsp;ngogledd Cymru gan artistiaid amrywiol, ac ef ei hun.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ymddengys bod Parry wedi defnyddio paent olew yn ei yrfa gynnar fel arlunydd &#8211; weithiau ar lechi, efallai ar gyfer y ffatri lle t\u00e2n llechi \u2018marmor\u2019 ym Mangor. Mae&#8217;r deunyddiau a ddefnyddiodd yn llawer o&#8217;i waith diweddarach, paent hydawdd d\u0175r ar bapur, o ansawdd gwael ar y cyfan. Mae gan lawer o&#8217;r darluniau hyn liw brown neu frown cochlyd oherwydd natur asidig iawn ei bapur neu&#8217;r byrddau cefn, a&#8217;r cyswllt gyda golau&#8217;r haul dros nifer o flynyddoedd. Y paent a ddefnyddiodd, yn ogystal \u00e2 dyfrlliw tryloyw, oedd gouache, gyda sylfaen sialc gwyn afloyw gydag arlliw o bigmentau o liwiau amrywiol. Ar ben hynny, ychydig iawn o rwymwr sydd ynddo (gwm neu gyfrwng resinaidd arall), felly gellir ei smwtsio neu ei olchi i ffwrdd yn hawdd \u00e2 d\u0175r. Ei fantais yw y gellir gwneud addasiadau yn hawdd neu beintio dros gamgymeriadau.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn ddieithriad darganfuwyd testunau ei luniau yn Nyffryn Ogwen, ac er iddo ddechrau bywyd fel gweithiwr chwarel fe osg\u00f4dd y tomenni llechi neu dystiolaeth arall o chwarel Penrhyn fel pwnc. Fodd bynnag mae paentiad olew mawr hynod o\u2019r chwarel weithiol, ddyddiedig 1895 &#8211; yn darlunio\u2019r ponciau a\u2019r \u2018Talcen Mawr\u2019 canolog, piler anferth o graig folcanig a\u2019i ffrwydrodd yn Ebrill 1895.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yn gyffredinol, roedd yn well ganddo, neu roedd yn gallu gwerthu, golygfeydd o fynyddoedd ac afon Ogwen, yn hytrach na therasau, strydoedd neu fywyd prysur Bethesda &#8211; ond yn aml iawn mae ffigur bach, pysgotwr efallai, yn cael ei roi fel presenoldeb dynol, yn y pellter canol.&nbsp;Yn nhestun y chwarel hyd yn oed nid oes ond ychydig ffigurau unig wrth waith. Weithiau, roedd yn peintio adeilad adnabyddus: Plas Coetmor, Nant-y-t\u0177, neu\u2019r ffug-\u2018Castell\u2019 ym Mharc Meurig. Cyflwynir ei ddelweddau traddodiadol o Eryri mewn fframiau pren goreurog neu bren tywyll &#8211; yn aml mewn parau. Os aeth ei waith yn amhoblogaidd yn ddiweddarach yn ei fywyd, roedd hynny o bosibl oherwydd argaeledd delweddau ffotograffig a newidiadau mewn chwaeth.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae enghreifftiau o&#8217;i waith wedi goroesi gan nad ydynt wedi cael eu disodli, a&#8217;u bod wedi eu cadw mewn cartrefi yn lleol i atgoffa pobl am berthnasau ymadawedig; neu os llwyddodd y lluniau i oroesi wrth glirio ac adnewyddu tai, roeddent weithiau&#8217;n cael eu rhoi i\u2019w cadw mewn llofftydd, atigau neu dai allan. Diolch i&#8217;r drefn mae rhai yn cael eu hail-werthuso fel lluniau sy&#8217;n ein hatgoffa o Ddyffryn Ogwen \u2018heb ei ddifetha\u2019.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>Jeremy Yates, 2021<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae J.T. Parry yn ymddangos yn rhestrau&#8217;r cyfrifiad fel arlunydd \/ arlunydd tirluniau. Felly, roedd un ai yn gwerthu digon o&#8217;i waith i ennill bywoliaeth resymol a chynnal teulu neu cefnogwyd ei waith celf gan gyflogaeth arall. Daw ei weithiau dyddiedig hysbys o&#8217;r 1880au hyd at ei farwolaeth, ond mae\u2019r ysbrydoliaeth i ddarlunio Plasty Coetmor&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/jt-parry-ap-idwal-1853-1913-yr-arlunydd-ai-ddeunyddiau\/\" title=\"Read JT Parry (Ap Idwal) (1853-1913): &#8216;YR ARLUNYDD A&#8217;I DDEUNYDDIAU&#8217;\">Read more &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-1265","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1265","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1265"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1265\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1266,"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1265\/revisions\/1266"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1265"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}