{"id":1267,"date":"2021-08-11T14:47:58","date_gmt":"2021-08-11T13:47:58","guid":{"rendered":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/?page_id=1267"},"modified":"2021-08-11T14:47:58","modified_gmt":"2021-08-11T13:47:58","slug":"jt-parry-ap-idwal-1853-1913-chwarelwr-arlunydd","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/jt-parry-ap-idwal-1853-1913-chwarelwr-arlunydd\/","title":{"rendered":"JT Parry (Ap Idwal) (1853-1913): &#8216;CHWARELWR ARLUNYDD&#8217;"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ganed J. T. Parry yn Chwarel Goch, Tre-garth, ger Bethesda, ar Fehefin 28, 1853, yn un o 7 o blant a aned i Henry Parry (1825-1894) ac Ann (1834-1893). Priododd JTP ag Elizabeth ar Fedi 9, 1877, a symud i 65 Ffordd Carneddi, Bethesda ac, yn ddiweddarach, i Rif 47. O\u2019r deg o blant a aned iddynt, goroesodd pedair merch (Anne Jan[e], Maggie, Myfanwy a Gracie) a thri mab (Henry Ellis, John a David).&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bu John Parry, fel nifer o fechgyn ei gyfnod, yn gweithio yn Chwarel y Penrhyn, Bethesda, ac un o\u2019i bleserau, pryd bynnag y c\u00e2i gyfle, oedd gwneud arluniadau dyfrlliw ar dameidiau o lechi a\u2019u gwerthu wedyn am ychydig sylltau\u2019r un.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Yng Nghyfrifiad 1881 ac eto ym 1891, caiff ei ddisgrifio fel <em>\u2018Artist-Painter\u2019<\/em>. Ym 1901, mae\u2019n <em>\u2018Artist &amp; Landscape Painter\u2019<\/em>, yn gweithio gartref, ac yn amlwg wedi troi\u2019i gefn ar y chwarel. Mae s\u00f4n i\u2019w arluniadau wneud cymaint o argraff ar yr Arglwyddes Penrhyn nes iddi gynnig talu iddo gael hyfforddiant proffesiynol mewn Coleg Celf.&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gwelir nifer ohonynt mewn sawl cartref yn Nyffryn Ogwen a\u2019r tu hwnt, gan gynnwys yng Nghastell y Penrhyn a\u2019r Llyfrgell Genedlaethol. Er y credir mai arluniadau o olygfeydd oedd cyfran helaeth o\u2019i waith, ceir \u2018Castell Dolbadarn\u2019, \u2018Pont T\u0175r\u2019, \u2018Pont Ogwen\u2019 ac, yn goron ar y cyfan, mae arluniad lliw o hen dreflan fach Bryn Llys, a gladdwyd dan domennydd Chwarel y Penrhyn dros gan mlynedd yn \u00f4l. Gan amlaf, byddai J. T. Parry yn ychwanegu \u2018Ap Idwal\u2019 at ei lofnod yng ngwaelod ei arluniadau.&nbsp;&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bu farw John Thomas Parry ar Fawrth 21, 1913, yn Ysbyty Wyrcws Bangor, a chladdwyd ef mewn bedd di-nod ym Mynwent Coetmor, Bethesda. <\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><strong>\u00a9 J. Elwyn Hughes, 2021<\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ganed J. T. Parry yn Chwarel Goch, Tre-garth, ger Bethesda, ar Fehefin 28, 1853, yn un o 7 o blant a aned i Henry Parry (1825-1894) ac Ann (1834-1893). Priododd JTP ag Elizabeth ar Fedi 9, 1877, a symud i 65 Ffordd Carneddi, Bethesda ac, yn ddiweddarach, i Rif 47. O\u2019r deg o blant a&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/jt-parry-ap-idwal-1853-1913-chwarelwr-arlunydd\/\" title=\"Read JT Parry (Ap Idwal) (1853-1913): &#8216;CHWARELWR ARLUNYDD&#8217;\">Read more &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":6,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-1267","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1267","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/users\/6"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1267"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1267\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1268,"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1267\/revisions\/1268"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1267"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}