{"id":223,"date":"2018-07-16T12:57:41","date_gmt":"2018-07-16T11:57:41","guid":{"rendered":"https:\/\/beta.storiel.co.uk\/cymru\/?page_id=223"},"modified":"2018-10-16T16:24:47","modified_gmt":"2018-10-16T15:24:47","slug":"hanes-yr-adeilad","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/hanes-yr-adeilad\/","title":{"rendered":"Hanes yr Adeilad"},"content":{"rendered":"<p>Plas yr Esgob, Bangor: Datganiad o Arwyddoc\u00e2d<\/p>\n<p>Mae Plas yr Esgob Bangor (Neuadd y Dref Bangor) yn adeilad rhestredig gradd II. Fe&#8217;i arolygwyd gan y Comisiwn Brenhinol yn 1949, ac roedd ei gyflwr yn &#8216;deg&#8217; yn unig. Mae&#8217;n adeilad sydd wedi&#8217;i esgeuluso rywfaint ond mae&#8217;n adeilad o ddiddordeb eithriadol y mae angen nodi ei arwyddoc\u00e2d yn glir.<\/p>\n<ol>\n<li><strong>Cyd-destun.<\/strong> Mae Plasau&#8217;r Esgobion yn fath o adeiladau arbennig a phrin. Maent yn grefyddol ac yn seciwlar. Roedd prif breswylfa&#8217;r esgob wedi&#8217;i lleoli ger yr eglwys gadeiriol ac fe&#8217;i cynhaliwyd gan yr ystadau esgobol. Safleoedd archeolegol yw plasau cynddiwygiadol yr esgobion Cymreig yn bennaf. Dinistriwyd rhai yn ystod gwrthryfel Owain Glynd\u0175r (Bangor, Llanelwy), neu fe&#8217;u gadawyd yn wag ar \u00f4l y Gwrthryfel (Llandaf), neu fe aethant \u00e2&#8217;u pen iddynt ar \u00f4l y Diwygiad (yn enwedig T\u0177 Ddewi).<\/li>\n<li><strong>Hanesyddol<\/strong>. Plas yr Esgob Bangor yw&#8217;r unig Blas i Esgob sylweddol sydd wedi goroesi o&#8217;r cyfnod canoloesol hwyr\u00a0yng Nghymru. Mae&#8217;r craidd canoloesol yn dal I ddylanwadu&#8217;n fawr ar y cynllun. Yr oedd yn d\u0177 preswyl parhaus gan Esgobion Bangor tan ganol yr ugeinfed ganrif.\u00a0Ond\u00a0cafwyd ychwanegiadau arwyddocaol ar \u00f4l y Diwygiad.<\/li>\n<li><strong>Deunyddiau adeiladu<\/strong>. Yn draddodiadol, cafwyd cyfnod o newid lle byddai preswylfeydd heb gaerau yn cael yn cael eu hadeiladu yn hytrach na plasau caerog a adeiladwyd\u00a0o garreg. Mae Plas yr Esgob ym Mangor yn breswylfa\u00a0heb gaerau a waned o bren cenhenid\u00a0gogledd Cymru, er bod y pren bellach yn cael ei guddio yn bennaf. Yng nghyfnod hwyr y canoloesau, ffarfriwyd adeiladau gyda phren ac fe arweiniodd hyn at godi adeiladau ysblennydd yng Nghymru. Mae&#8217;n hysbys bod y Plas wedi cael to ysblennydd. At hynny, mae gan y Blas yr Esgob\u00a0beth hawl\u00a0mai\u00a0ef yw&#8217;r adeilad domestig o ffr\u00e2m bren mwyaf sydd wedi goroesi yng Nghymru.<\/li>\n<li><strong>Cynllun.<\/strong> Mae&#8217;r cynllun o ddiddordeb mawr. Mae&#8217;n\u00a0blas gyda chynllun hierarchaidd. Roedd y mynediad i\u2019r plas trwy&#8217;r porth\u00a0i gyfeiriad de. Roedd ystafelloedd gweision\/gweinyddu i&#8217;r dwyrain; a\u2019r neuadd i&#8217;r gorllewin. Mae&#8217;r neuadd yn &#8216;neuadd ben&#8217; gyda&#8217;r adain parlwr wedi&#8217;i gosod ar ongl sgw\u00e2r iddo.<\/li>\n<li><strong>Dyddio.<\/strong> Plas yr Esgob yw&#8217;r adeilad hynaf sydd wedi&#8217;i\u00a0dyddio o arysgrifiad yng Nghymru. Roedd yr arysgrifau dyddio yn agwedd ffasiynol o ddiwylliant y Dadeni ac mae&#8217;r adeiladau\u00a0sydd wedi&#8217;u\u00a0dyddio gynharaf yn rhai crefyddol. Cofnodwyd yr arysgrif C16 cynnar gan Browne Willis\u00a0a chafodd ei ganfod\u00a0at yr\u00a0ystod gwaith i&#8217;r adeilad. Mae dyddio cylchoedd coed wedi dangos bod yr adain Ddwyreiniol wedi&#8217;i hadeiladu o bren wedi&#8217;i dorri yn 1546. Yn unigryw, cafodd Plas yr Esgob estyniad yn syth ar \u00f4l y Diwygiad, ac fe ychwanegwyd ato&#8217;n ddiweddarach yn y ddeunawfed ganrif a&#8217;r bedwaredd ganrif at bymtheg.<\/li>\n<li><strong>Cyfraniad i&#8217;r drefwedd<\/strong>. Dyma&#8217;r adeilad domestig hynaf a breswylwyd yn barhaus ym Mangor. Mae&#8217;n gysylltiad uniongyrchol \u00e2&#8217;r anheddiad canoloesol a sefydlwyd yng nghyffiniau&#8217;r eglwys gadeiriol.<\/li>\n<\/ol>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Richard Suggett, RCAHMW,Aberystwyth.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Plas yr Esgob, Bangor: Datganiad o Arwyddoc\u00e2d Mae Plas yr Esgob Bangor (Neuadd y Dref Bangor) yn adeilad rhestredig gradd II. Fe&#8217;i arolygwyd gan y Comisiwn Brenhinol yn 1949, ac roedd ei gyflwr yn &#8216;deg&#8217; yn unig. Mae&#8217;n adeilad sydd wedi&#8217;i esgeuluso rywfaint ond mae&#8217;n adeilad o ddiddordeb eithriadol y mae angen nodi ei arwyddoc\u00e2d&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/hanes-yr-adeilad\/\" title=\"Read Hanes yr Adeilad\">Read more &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-223","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/223","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=223"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/223\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":308,"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/223\/revisions\/308"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=223"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}