{"id":277,"date":"2018-08-15T15:55:28","date_gmt":"2018-08-15T14:55:28","guid":{"rendered":"https:\/\/beta.storiel.co.uk\/cymru\/?page_id=277"},"modified":"2018-10-17T16:22:17","modified_gmt":"2018-10-17T15:22:17","slug":"datganiad-hygyrchedd","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/datganiad-hygyrchedd\/","title":{"rendered":"Datganiad Hygyrchedd"},"content":{"rendered":"<h2>Datganiad Hygyrchedd<\/h2>\n<p>\u201cNid yw\u2019r datganiad hygyrchedd yn cynnwys barn bersonol am addasrwydd y lle ar gyfer pobl ag anableddau ond y nod yw disgrifio\u2019r cyfleusterau a\u2019r gwasanaethau a gynigiwn i\u2019n holl ymwelwyr.\u201d<\/p>\n<p><strong>Y Fynedfa<\/strong><br \/>\nRydych yn dod at brif fynedfa\u2019r amgueddfa o Ffordd Gwynedd ar lwybr gwastad wedi\u2019i wneud o slabiau gydag ambell ddarn o gerrig afon. Gellir cyrraedd drws yr amgueddfa gan wneud mwy o gylch o\u2019r bae parcio gerllaw i\u2019r drws ffrynt. Mae drysau dwbl y brif fynedfa\u2019n agor i gyntedd bach. Fel rheol, maent wedi\u2019u dal ar agor yn ystod yr oriau agor, sef 11 tan 5, ac mae lled yr agoriad yn 130cm. Mae ail set o ddrysau dwbl, gwydr, sy\u2019n agor yn awtomatig. Mae lled agoriad y drysau dwbl awtomatig yn 120 cm.<\/p>\n<p><strong>Arwyddion<\/strong><br \/>\nRydym wedi ceisio codi arwyddion \u00e2 llythrennau feinyl trwy\u2019r adeilad cyfan. Os oes rhyw arwydd yn aneglur neu\u2019n ddryslyd, cofiwch ddweud wrthym.<\/p>\n<p><strong>Y Dderbynfa<\/strong><br \/>\nMae\u2019r drws hwn yn agor i\u2019n prif dderbynfa. Mae hon yn olau braf ac mae desg y dderbynfa\u2019n eich wynebu wrth ddod i mewn. Mae\u2019r siop i\u2019r chwith o\u2019r ddesg ac mae drysau dwbl i\u2019r caffi oddi yno. Mae\u2019r grisiau\u2019n arwain i\u2019r prif orielau celf ac arddangosfeydd yr amgueddfa. O\u2019r dderbynfa, mae gennym doiled sy\u2019n addas ar gyfer dynion a merched ac sy\u2019n cydymffurfio \u00e2\u2019r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd. Mae bwrdd newid babanod yno hefyd. Ar waelod y grisiau, mae bachyn i ddal cotiau ac ambarelau. Yn y dderbynfa, mae blwch cyfraniadau a thaflenni i roi gwybod am atyniadau i ymwelwyr ym Mangor a\u2019r cylch. Pan fyddwn ar agor, mae derbynnydd wrth y ddesg sydd lai na 3m o ddrws mewnol y fynedfa. Mae desg y dderbynfa wedi\u2019i chynllunio i ateb anghenion gwahanol bobl ac mae iddi ddau uchder, 112cm a 78cm. Mae dolen sain symudol ar ddesg y dderbynfa. Holwch os bydd arnoch angen dolen sain i\u2019w defnyddio yn y brif oriel neu\u2019r ystafelloedd cyfarfod.<\/p>\n<p><strong>Y Siop<\/strong><br \/>\nMae llawr y siop ar lefel y ddaear. Nid oes modd cyrraedd silffoedd arddangos uchel o\u2019ch eistedd. Mae eitemau\u2019n cael eu harddangos ar unedau annibynnol yn ogystal ag ar silffoedd ac unedau ac mewn casys arddangos o gwmpas ymylon yr ystafell. Mae staff ar gael i helpu. Gellir mynd \u00e2 choetsh plant bach neu gadair olwyn o gwmpas yr unedau.<\/p>\n<p><strong>Y Caffi<\/strong><br \/>\nGallwch fynd i&#8217;r caffi\u00a0o\u2019r siop, trwy ddrysau dwbl i\u2019r chwith o ddesg y dderbynfa. Mae un drws sengl yn mesur 100cm. Mae lle i 28 eistedd yn y caffi ac mae rhagor o le i eistedd y tu allan yn yr haf. Mae gan y byrddau i gyd goesau ym mhob cornel ac mae breichiau gan rai o\u2019r cadeiriau sydd y tu allan. Os oes gennych anghenion deietegol arbennig, soniwch wrth staff y caffi.<\/p>\n<p><strong>Toiledau<\/strong><br \/>\nLlawr gwaelod<br \/>\nMae tri thoiled sy\u2019n addas i ddynion a merched ar y llawr daear ac mae modd mynd \u00e2 chadair olwyn i ddau ohonynt. Mae wyneb gwrthlithro ar lawr y tri ohonynt.<\/p>\n<p><strong>Toiled 1<\/strong><br \/>\nMae\u2019r toiled mwyaf ar waelod y prif risiau, trwy\u2019r drysau dwbl o\u2019r brif dderbynfa. Mae\u2019r drws yn 90cm o led. Mae\u2019r ystafell yn mesur 270cm wrth 210cm ac mae\u2019n cynnwys toiled, basn golchi dwylo, dyfais d\u0175r poeth, peth dal sebon, bin, bin cadachau misglwyf, bin clytiau babanod a bwrdd newid babanod. Mae\u2019r peth dal papur toiled 88cm o lefel y llawr. Mae canllaw byr yn sownd wrth y wal ac mae yno linyn larwm i\u2019w dynnu mewn argyfwng.<\/p>\n<p>Mae Toiled 2 a Thoiled 3 i lawr coridor i\u2019r dde o\u2019r brif fynedfa.<\/p>\n<p><strong>Toiled 2<\/strong><br \/>\nGallwch fynd \u00e2 chadair olwyn i Doiled 2. Mae yno ganllawiau, llinyn larwm i\u2019w dynnu, basn golchi dwylo, sychwr dwylo, bin, bin clytiau babanod a bwrdd newid babanod. Mae\u2019r drws yn 93cm o led ac mae\u2019r papur toiled wedi\u2019i osod ar 91cm o uchder.<\/p>\n<p><strong>Toiled 3<\/strong><br \/>\nMae seston toiled, sinc, basn golchi dwylo, sychwr dwylo a bin yn Nhoiled 3. Mae\u2019r drws yn 90cm o led.<\/p>\n<p><strong>Cyfleusterau ar y llawr cyntaf<\/strong><br \/>\nMae dau doiled sy\u2019n addas i ddynion a menywod, \u00e2 llawr feinyl gwrthlithro, ar landin y prif risiau. Mae seston toiled a pheth dal papur toiled, basn golchi dwylo, peiriant d\u0175r poeth, sychwr dwylo a bin yn y ddau le. Dim ond 87cm o led yw agoriad y drws.<\/p>\n<p><strong>Lloriau<\/strong><br \/>\nEstyll derw haenog yw lloriau\u2019r prif orielau a\u2019r mannau ymgynnull. Lloriau feinyl gwrthlithro sydd ar y prif risiau a\u2019r landin ac yn y toiledau. Lle bo\u2019r uchder yn newid rhwng ystafelloedd, mae rampiau bach a chanllawiau. Os mai newidiadau bach iawn sydd rhwng uchder dwy ystafell, rhoddir stribed i ddangos hynny ar y llawr wrth fynd trwy\u2019r drws.<\/p>\n<p><strong>Arddangosiadau<\/strong><br \/>\nMae\u2019r arddangosiadau yn yr oriel yn cynnwys gweithiau 2D neu 3D ac mae capsiynau \u00e2 ffont maint 14 ar yr holl ddarnau. Fel rheol, mae gweithiau 2D yn cael eu hongian fel bod y canol ar uchder o 143cm er mwyn i gynifer o bobl ag y bo modd gael eu gweld yn iawn.<\/p>\n<p><strong>Cyrraedd y llawr cyntaf<\/strong><\/p>\n<p><strong>Lifftiau<\/strong><br \/>\nMae\u2019r lifft agosaf at y brif fynedfa ar y dde i\u2019r drws ffrynt. Mae\u2019n mynd \u00e2 chi i ystafell arddangos gyntaf yr amgueddfa. Mae drws y lifft yn 90cm o led.<\/p>\n<p>Yng nghefn yr adeilad, mae ail lifft sy\u2019n mynd ag ymwelwyr o ail ystafell arddangos yr amgueddfa i\u2019r drydedd gan ddilyn llwybr tebyg i ymwelwyr sy\u2019n dewis defnyddio\u2019r grisiau. Mae drws yr ail lifft yn 96cm o led.<\/p>\n<p><strong>Grisiau<\/strong><br \/>\nRydych yn cyrraedd yr orielau celf a\u2019r amgueddfa ar y llawr cyntaf. Mae i\u2019r prif risiau ochr a chanllaw pren wedi\u2019u paentio. Maent wedi\u2019u rhestru, Gradd II ac yn dyddio o tua 1753. Mae canllaw\u2019n rhan o\u2019r grisiau gwreiddiol ond nid ydym wedi gallu gosod canllaw haws i\u2019w defnyddio ar ddwy ochr y grisiau. Mae angen dringo nifer o risiau i gyrraedd y llawr cyntaf \u2013 yn gyntaf, mae set o bedair gris yn cyrraedd landin, yna mae troad 90 gradd ac 11 gris arall, landin bychan a throad 90 gradd arall ac yna set olaf o bedair gris cyn cyrraedd y llawr cyntaf. Mae\u2019r landin uchaf yn arwain i\u2019r orielau i gyd \u2013 yr orielau celf trwy\u2019r drysau dwbl o\u2019ch blaen ac orielau\u2019r amgueddfa trwy fynedfa lai ar y chwith.<\/p>\n<p>Mae arddangosiadau\u2019r amgueddfa ar y llawr cyntaf a\u2019r llawr daear yn gyfuniad o weithiau mewn casys arddangos gwydr neu bersbecs, yn eitemau\u2019n cael eu harddangos yn agored (fel y dodrefn), ac yn banelau sydd \u00e2 chyfuniad o ysgrifen ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) a lluniau. Rydym yn ceisio sicrhau bod ffont yr ysgrifen ar y paneli wal hyn yn faint 16 o leiaf, gyda chapsiynau llai yn faint 14. Gellir darparu copi o\u2019r ysgrifen sydd ar y wal mewn print bras os gofynnwch. Bydd pwyntiau clyweledol gyda gwybodaeth ryngweithiol am yr eitemau ar gael yn fuan.<\/p>\n<p>Bydd yn bleser gan y gwirfoddolwyr cyfeillgar yn yr amgueddfa a\u2019r orielau celf eich helpu a rhoi rhagor o wybodaeth i chi.<\/p>\n<p>Nid ydym yn cynnig llwybr sain ar hyn o bryd.<\/p>\n<p>Gall teithiau tywys ar gyfer grwpiau o bobl ag anghenion penodol, yn cynnwys grwpiau o ysgolion a cholegau, gael eu trefnu ymlaen llaw.<\/p>\n<p><strong>Goleuo<\/strong><br \/>\nMae golau da, gwastad, yn y dderbynfa a\u2019r siop. Fel rheol, mae golau da, gwastad, yn yr oriel ond weithiau mae angen llai o olau oherwydd anghenion cadwraeth darnau penodol o waith celf. Mae\u2019r grisiau i\u2019r amgueddfa wedi\u2019u goleuo\u2019n dda ond mae\u2019r golau wedi pylu mewn\u00a0rhai o ystafelloedd yr amgueddfa oherwydd anghenion cadwraeth rhai o eitemau mwyaf bregus yr amgueddfa.<\/p>\n<p>Gwybodaeth ychwanegol<br \/>\nMae\u2019r holl staff yn cael hyfforddiant sy\u2019n cynnwys ymwybyddiaeth o anableddau a gofal am gwsmeriaid, yn cynnwys dyfarniad WorldHost.<\/p>\n<p>Mae croeso i g\u0175n cymorth, ond dim c\u0175n eraill, yn yr amgueddfa a\u2019r oriel.<\/p>\n<p>Rydym yn croesawu awgrymiadau am welliannau i\u2019n gwasanaeth trwy ein llyfrau sylwadau, dros y ff\u00f4n,\u00a0drwy ebost ac ati.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Datganiad Hygyrchedd \u201cNid yw\u2019r datganiad hygyrchedd yn cynnwys barn bersonol am addasrwydd y lle ar gyfer pobl ag anableddau ond y nod yw disgrifio\u2019r cyfleusterau a\u2019r gwasanaethau a gynigiwn i\u2019n holl ymwelwyr.\u201d Y Fynedfa Rydych yn dod at brif fynedfa\u2019r amgueddfa o Ffordd Gwynedd ar lwybr gwastad wedi\u2019i wneud o slabiau gydag ambell ddarn o&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/datganiad-hygyrchedd\/\" title=\"Read Datganiad Hygyrchedd\">Read more &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-277","page","type-page","status-publish","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/277","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=277"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/277\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":325,"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/277\/revisions\/325"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=277"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}