{"id":1506,"date":"2022-06-14T14:22:30","date_gmt":"2022-06-14T13:22:30","guid":{"rendered":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/?p=1506"},"modified":"2022-06-14T14:22:31","modified_gmt":"2022-06-14T13:22:31","slug":"agweddaur-rhufeiniaid-at-rywedd","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/blog\/agweddaur-rhufeiniaid-at-rywedd\/","title":{"rendered":"Agweddau&#8217;r Rhufeiniaid at Rywedd?"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fe wnaeth agweddau&#8217;r Rhufeiniaid a&#8217;r Groegwyr tuag at rywedd ddylanwadu ar wareiddiadau mwy diweddar.&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd y gymdeithas Rufeinig yn batriarchaidd, a dynion cryf, gwrol, awdurdodol oedd yn ennyn y parch mwyaf. (Vir: y gair Rhufeinig am ddyn) Mae alffa-wrywod wedi eu disgrifio fel &#8216;treiddwyr anrheiddiadwy&#8217; (<em>impenetrable penetrators<\/em>) \u2013 nid oedd yn cael ei ystyried yn annerbyniol i ddynion gael perthnasau rhywiol a dynion eraill a bechgyn, er mai&#8217;r unigolyn oedd yn dominyddu yn gymdeithasol a gwleidyddol oedd y &#8216;treiddiwr&#8217; bob amser.&nbsp; Roedd cyfraith Rhufain yn cyfeirio at rywedd person fel gwryw, benyw neu ddeuryw, gyda&#8217;u hawliau cyfreithiol fel gwryw neu fenyw yn ddibynnol ar y nodweddion a ymddangosai yn fwyaf amlwg.&nbsp;&nbsp;&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Roedd cymdeithas Roegaidd hefyd wedi ei dominyddu gan ddynion; byddid yn cadw merched o lygad y cyhoedd, a phrin y byddent yn derbyn addysg. Yr eithriad i hyn oedd Sparta, lle roedd menywod yn cael llawer mwy o ryddid ac yn derbyn addysg. Byddai bechgyn yn cael eu hyfforddi i ddod yn filwyr, ac, i baratoi at ymgyrchoedd milwrol, yn derbyn dognau &#8216;Spartaidd&#8217; o fwyd &#8211; yn wahanol i&#8217;w chwiorydd, a oedd yn cael mwy o fwyd. Tra bod y boblogaeth wrywaidd i ffwrdd yn ymladd, disgwylid i ferched gynnal y gymdeithas gartref.&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Fe wnaeth agweddau&#8217;r Rhufeiniaid a&#8217;r Groegwyr tuag at rywedd ddylanwadu ar wareiddiadau mwy diweddar.&nbsp;&nbsp; Roedd y gymdeithas Rufeinig yn batriarchaidd, a dynion cryf, gwrol, awdurdodol oedd yn ennyn y parch mwyaf. (Vir: y gair Rhufeinig am ddyn) Mae alffa-wrywod wedi eu disgrifio fel &#8216;treiddwyr anrheiddiadwy&#8217; (impenetrable penetrators) \u2013 nid oedd yn cael ei ystyried yn&#8230;  <a class=\"excerpt-read-more\" href=\"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/blog\/agweddaur-rhufeiniaid-at-rywedd\/\" title=\"Read Agweddau&#8217;r Rhufeiniaid at Rywedd?\">Read more &raquo;<\/a><\/p>\n","protected":false},"author":4,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[1],"tags":[],"class_list":["post-1506","post","type-post","status-publish","format-standard","hentry","category-uncategorised"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1506","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/users\/4"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1506"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1506\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1507,"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/1506\/revisions\/1507"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1506"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=1506"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/www.storiel.cymru\/cymru\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=1506"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}