I ddathlu 200 mlynedd ers agor Pont Grôg Menai, comisiynwyd Steve Guinness gan Storiel i adeiladu model 5 troedfedd o hyd o’r bont gan ddefnyddio briciau Lego.

Yn yr arddangosfa hon, roeddem am ddangos sut mae’r bont wedi’i darlunio yn hanesyddol – gan ddefnyddio casgliad Storiel o brintiau topograffig, ac arteffactau, fel y sampler a’r lle tân hwn. Mae mwy o eitemau a chyswllt â’r pontydd yn yr Amgueddfa. Rydym hefyd eisiau ysbrydoli ymwelwyr i adeiladu eu pont eu hunain gyda Lego.

Byddem yn croesawu delweddau a barn ein cymunedau am Bont Grôg Menai. Oes gennych chi ddelweddau o’r bont sydd o bwys arbennig i chi heddiw? Oes na luniau priodas gyda’r bont yn y cefndir? Beth mae’r bont yn ei olygu i chi? Ydy’ch chi’n cerdded drosti yn ddyddiol i fynd i’r gwaith? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych: [email protected]

Roedd Steve Guinness, dylunydd a gwneuthurwr y bont Lego, yn enillydd ar raglen ‘Lego Masters’ ar ‘Channel 4’ ac mae’n angerddol am greadigrwydd ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf wrth ddysgu drwy chwarae. Rydym yn cynnal nifer o weithdai Lego gydag ysgolion Gwynedd i ddysgu am bontydd, ac mae digwyddiadau lu i deuluoedd. 

Mi fydd pecynnau Lego ar gael i greu Pont y Borth yn ein siop yn fuan.

Mae LEGO® yn nod masnach Grŵp cwmnïau LEGO nad yw’n noddi, awdurdodi nac yn cymeradwyo’r arddangosfa a digwyddiadau hyn.

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Digwyddiad

Lansiad Llyfr: Nathan Abrams

13 June 2026

Ymunwch â'r Athro Nathan Abrams (Prifysgol Bangor) ar gyfer lansiad ei lyfr newydd, Jews in the Welsh Imagination: From Medieval Times to the Present. Mae'r llyfr newydd arloesol hwn yn datgelu sut mae Cymru wedi dychmygu, cynrychioli, a ymgysylltu â'r Iddewon ac Iddewiaeth dros fwy na wyth canrif. O farddoniaeth canoloesol a brwdfrydedd cenhadol cynhenid i geo­wleidyddiaeth y unfed ganrif ar bymtheg a dadleuon cyfoes am hunaniaeth a chenedlaetholdeb, mae Abrams yn datgelu edafedd gyfrinachol ond pwerus sy'n rhedeg trwy hanes diwylliannol Cymru. Gan herio rhagdybiaethau ac agor sgwrs newydd, dyma gyfrif newydd sylweddol am berthynas gymhleth Cymru ac Iddewiaeth.