Arddangosfeydd a Digwyddiadau

Digwyddiad

Yr Apêl Heddiw: Parhau A’r Daith at Heddwch

14 June 2025

Ymunwch â ni yn Storiel ar gyfer diwrnod o Heddwch — diwrnod o greadigrwydd a myfyrdod wedi’i ysbrydoli gan Ddeiseb Heddwch y Merched. Bydd y bore yn cynnwys gweithdy gwnïo gyda’r artist Bethan Hughes, lle byddwn yn creu amlenni symbolaidd o heddwch, ac yn y prynhawn cawn ymuno â Linda Rogers a Carrie Pester ar gyfer sesiwn addfwyn a myfyriol i rannu, trafod a pharhau â’r daith tuag at heddwch. Dewch â’ch cinio eich hun, a bydd coffi a chacennau ar gael i’w prynu yn y caffi os hoffech chi rywbeth melys. Cynhelir y digwyddiad yn bennaf yn Saesneg gyda rhywfaint o Gymraeg, ac mae’n rhad ac am ddim i fynychu.

Cyfleusterau

Cyfleusterau

Siop Storiel

Dyma y lle ym Mangor i brynu rhoddion cyfoes, gwreiddiol wedi’u gwneud â llaw. Rydym yn gwerthu cyfuniad o grefftau yn cynnwys crochenwaith, gemwaith, cardiau cyfarch a phrintiau gan ddylunwyr sy’n prysur ddod i amlygrwydd.

Ymunwch