
Be sy' mlaen


Celf Agored Storiel 2020
18 Tachwedd 2020 - 27 Mawrth 2021Mae’r Celf Agored yn arddangosfa flynyddol sy’n agored i artistiaid a myfyrwyr 16 oed a hŷn sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Eleni gwahoddwyd ceisiadau ar thema ‘Awyr Agored’.

Edrych ar gelf …
18 Tachwedd 2020 - 27 Mawrth 2021Cyflwynir pymtheg eitem o gasgliad celf STORIEL i ddangos sut mae gwahanol artistiaid wedi ymateb i’w pwnc. Mae'r arddangosfa yn cynnwys gwaith gan Frank Brangwyn, John Piper, Kyffin Williams, Brenda Chamberlain, Susan Adams, Dan Llywelyn Hall ac eraill.

Doliau
18 Tachwedd 2020 - 27 Mawrth 2021Mae gan Storiel amrywiaeth o ddoliau yn y casgliad, o ddoliau Fictoraidd i Sindy o’r 1960au, ond y rhai pwysicaf yw’r doliau gwisg Gymreig. Mae doliau yn gyfarwydd fel y teganau mwyaf cyffredin a phoblogaidd ac roedd yn gyffredin i ddoliau gael eu gwneud â llaw gan grefftwyr neu rieni. Yng Nghymru gwerthwyd doliau mewn ffeiriau teithiol a marchnadoedd, ac yn ddiweddarach siopau teganau. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd daeth doliau’n fwy hygyrch. Yn ogystal â’r amrywiol doliau, gwelir hefyd rhai printiau a chardiau post yn dangos enghreifftiau o wisg Gymreig.