Fel rhan o gyfres gweithgareddau dathliadau #Storiel10 dros gwyliau’r Pasg, mae’n fraint cael croesawu Steve Guinness y ‘Brick Consultant’ i’r amgueddfa i gyflwyno gweithdy addysgiadol, hwyliog i’r holl deulu.

Daeth Steve ir amlwg fel enillydd cyfres cyntaf LEGO®  Masters yn 2017 . Mae Steve hefyd yn gyfrifol am ddylunio y set LEGO® ‘Ideas Typewriter’.

Bydd y gweithdy yma yn plethu gyda cyd-ddathliad 200 mlynedd ers agor Pont y Borth a gwaith arloesol y pensaer a dylunydd Thomas Telford. Bydd Steve yn defnyddio hyn fel man cychwyn i’r gweithdy hwyl yma.

Mae LEGO® yn  Nod Masnachol cofrestredig or ‘LEGO group’, tydi y cwmni ddim yn noddi neu cymeradwyo y gweithgaredd yma

Tocynnau (Am Ddim):

Adeiladu Pont Lego ® gyda / Lego Bridge Building with Steve Guinness Tickets, Saturday, Mar 28 from 11 am to 1 pm | Eventbrite

Adeiladu Pont Lego ® gyda / Lego Bridge Building with Steve Guinness Tickets, Saturday, Mar 28 from 2 pm to 4 pm | Eventbrite