I ddathlu 200 mlynedd ers agor Pont Grôg Menai, comisiynwyd Steve Guinness gan Storiel i adeiladu model 5 troedfedd o hyd o’r bont gan ddefnyddio briciau Lego.
Yn yr arddangosfa hon, roeddem am ddangos sut mae’r bont wedi’i darlunio yn hanesyddol – gan ddefnyddio casgliad Storiel o brintiau topograffig, ac arteffactau, fel y sampler a’r lle tân hwn. Mae mwy o eitemau a chyswllt â’r pontydd yn yr Amgueddfa. Rydym hefyd eisiau ysbrydoli ymwelwyr i adeiladu eu pont eu hunain gyda Lego.
Byddem yn croesawu delweddau a barn ein cymunedau am Bont Grôg Menai. Oes gennych chi ddelweddau o’r bont sydd o bwys arbennig i chi heddiw? Oes na luniau priodas gyda’r bont yn y cefndir? Beth mae’r bont yn ei olygu i chi? Ydy’ch chi’n cerdded drosti yn ddyddiol i fynd i’r gwaith? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych: [email protected]
Roedd Steve Guinness, dylunydd a gwneuthurwr y bont Lego, yn enillydd ar raglen ‘Lego Masters’ ar ‘Channel 4’ ac mae’n angerddol am greadigrwydd ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf wrth ddysgu drwy chwarae. Rydym yn cynnal nifer o weithdai Lego gydag ysgolion Gwynedd i ddysgu am bontydd, ac mae digwyddiadau lu i deuluoedd.
Mi fydd pecynnau Lego ar gael i greu Pont y Borth yn ein siop yn fuan.
Mae LEGO® yn nod masnach Grŵp cwmnïau LEGO nad yw’n noddi, awdurdodi nac yn cymeradwyo’r arddangosfa a digwyddiadau hyn.