Cyfarfod â’r Tîm – Manon Dafydd

Enw: Manon Dafydd

Swydd: Cymhorthydd Safle Achlysurol

Prif ddyletswyddau eich rôl yn Storiel: Agor a chau’r adeilad a chroesawu gwesteion a rhoi cymorth lle mae modd

Ers pryd ydych chi wedi gweithio yn Storiel: 8 mis

Beth yw’r peth gorau am eich rôl yn Storiel: Cael gweithio mewn adeilad hyfryd sy’n llawn hanes a chelf a chael gwneud hynny fel rhan o dim gwych o bobl!

Be gallech chi gael un archpwer beth fyddai hwnnw? : Gallu hedfan

Beth yw eich hoff ffordd o ymlacio y tu allan i’r gwaith?: Cerdded, darllen, gwylio ffim neu gyfres dda a postian o gwmpas y tŷ wrth wrando ar gerddoriaeth