Mae Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol Cymru yn bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae wedi comisiynu Innovation Partnership i werthuso CELF. Mae’r prosiect wedi rhoi arian i naw oriel yng Nghymru. Bydd yr arian yn sicrhau safonau diogelwch boddhaol ar gyfer benthyciadau o weithiau celf gwerthfawr o’r casgliad cenedlaethol o gelf gyfoes. Bydd hefyd yn hwyluso gwelliannau eraill i’r safle. Y nod yw ehangu mynediad i’r casgliad cenedlaethol ledled Cymru.
Fel rhan o’r gwerthusiad, rydym yn gofyn i ymwelwyr ag orielau sy’n aelodau o GELF. Rydym am gasglu tystiolaeth o gyflawniad ac effaith gynnar a’ch barn a’ch awgrymiadau am waith CELF yn y dyfodol i wella profiad yr ymwelwyr.
Byddem yn ddiolchgar pe gallech gymryd ychydig funudau i lenwi’r holiadur byr ar-lein:
- Fersiwn Saesneg: https://www.surveymonkey.com/r/CELFgalleryvisitors
- Ferswin Cymraeg: https://www.surveymonkey.com/r/GYW7KKW
Llenwch yr arolwg erbyn 6 o Fai 2025. Bydd yn cymryd llai na 10 munud. Bydd pob ymatebydd yn cael ei gynnwys mewn raffl i ennill gwobr gwerth £50.
Bydd pob ymateb yn gyfrinachol ac yn cydymffurfio’n llawn â Rheoliad Cyffredinol Diogelu Data. Ni fydd CELF na neb arall yn gweld ymatebion unigol. Rydym hefyd wedi atodi ein Datganiad o Breifatrwydd.
Os hoffech ateb yr arolwg dros y ffôn neu ar-lein gyda’n Cyfarwyddwr Gwerthuso, Nigel Woodruff, e-bostiwch [email protected] i drefnu amser cyfleus.
Diolch yn fawr am eich cyfraniad.
Mae Storiel yn rhan o bartneriaeth CELF sydd rhwng rhwng Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Oriel Myrddin yng Nghaerfyrddin, Oriel Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Oriel Davies yn Y Drenewydd, Plas Glyn y Weddw yn Llanbedrog, Canolfan Grefft Rhuthun, Mostyn yn Llandudno, Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd ac Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe.