Mae dros 3,000 o corlannau defaid ar draws gogledd-orllewin Cymru, ond dim ond tua 100 ohonynt sydd yn gorlannau cymunedol mawr y mae ffermwyr wedi’u defnyddio i ddosbarthu’r llwyth o ddefaid sy’n pori ar y mynyddoedd dros yr haf. Mae’r sgwrs hon yn edrych ar sut mae’r corlannau mawr hyn yn gweithio, pryd, pam a ble y codwyd hwy a sut maent yn ffitio i hanes a diwylliant ffermio mynyddoedd Cymru – ac hefyd sut y maent yn gysylltiedig ag ynys oddi ar arfordir Croatia. Mae llawer ohonynt bellach yn ddirywio a adfeilio ond byddwn yn gorffen y sgwrs trwy weld sut y defnyddir rhai ohonynt hyd heddiw, gan barhau’r patrwm a’r rhythm o gasglu defaid o’r mynyddoedd sydd wedi mynd yn ôl dros 300 mlynedd.
Efallai byddai gennych ddiddordeb yn
Casi + Al Morrison
24 September 2026Yn rhan o raglen cerdd, celf a llen Cadeirlan Bangor: DON IAU, dyma Storiel yn cyflwyno cyngerdd bythgofiadwy. Dyma gyfle i glywed perfformiad byw o record hir gyntaf y cerddor o Fangor, sef Plentyn yr Haul gan Casi. Bydd cefnogaeth ar y diwrnod gan y gitarydd o Fethesda, Al Morrison.
SISTER WIVES
26 September 2026Mae'r pedwarawd o Sheffiled yn ôl i swyno Storiel gyda'u tiwns seicadelig!
Ffair Recordiau
26 September 2026Mae'r casglwr recordiau o fri, Toni Schiavone yn ôl gyda pherlau i chi gael gafael arnyn nhw!