Mae’n fraint gwahodd Fiona a Gorwel Owen i Storiel i berfformio caneuon o’u halbwm newydd.

Mae Fiona yn fardd sefydledig a wedi cyhoeddi nifer o lyfrau gan weisg niferus. Mae Gorwel Owen yn gerddor a chynhyrchydd sydd wedi chwarae rhan allweddol ym myd cerddorol Cymru ers yr 80au cynnar. Gyda’i waith cynhyrchu a pheiriannu medrus, mae wedi bod yn ffigwr hynod bwysig yn esblygiad cerddoriaeth gyfoes Cymru. Mae wedi gweithio gyda’r Super Furry Aniamls, Gorky’s Zygotic Myncti, Melys ac eraill ac eisoes wedi rhyddhau yr albwm Yn Iach Eto Teimlo Tant yn 2026.

Gyda’i gilydd sefydlwyd Fiona a Gorwel y band Plant Bach Ofnus yn yr 80au hwyr ac ers hynny maent wedi rhyddhau tri albwm uchel eu clod.

Archebu lle yma!

Prif ffotograff: Clare Marie Bailey