Fel rhan o ddathliadau Penblwydd #Storiel10 bydd gweithdy arbennig i ddylunio a chreu eich zine unigryw.

Mae zines yn ffurf fwyfwy poblogaidd o rannu straeon, gwaith a syniadau creadigol ac yn cynnig y cyfle i arbrofi gyda sawl cyfrwng a chyfuno geiriau a chelf gweledol mewn ffyrdd difyr, gwreiddiol a phryfoclyd.

Bydd y gweithdy creu zines yma yn cael ei arwain gan yr arlunydd, llyfrbryf a chrëwr zine profiadol Elin Angharad. Mae Elin yn mwynhau annog y profiad cymunedol o rannu straeon, hanesion a chwedlau yn weledol, trwy ddarllen, ysgrifennu ac ar lafar ac yn credu yn ddwys fod pob llais yr un mor haeddianol a gwerthfawr, a bod archwilio yr amrwd yn gam allweddol o greadigrwydd ac yn ddiben hynod werth chweil ynddo’i hun.

Ymunwch a ni felly i ddarganfod mwy am y cyfrwng, ac i greu eich zine eich hun!

Archebwch le yma!