Yn y gweithdy 2.5 awr yma, byddwn yn archwilio technegau creu marciau gan ddefnyddio inc dyfrlliw a phastelau, ac yn datblygu cyfansoddiad collage unigryw. Bydd Menai’n eich tywys trwy arbrofi â gweadau a thonau i’ch helpu i greu gwaith celf wreiddiol eich hun

Bydd y sesiwn yn un hwyliog ac anffurfiol, gyda seibiant ar gyfer paned a bisgedi wedi’i gynnwys

ARCHEBWCH YMA

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Digwyddiad

Lansiad Llyfr: Nathan Abrams

13 June 2026

Ymunwch â'r Athro Nathan Abrams (Prifysgol Bangor) ar gyfer lansiad ei lyfr newydd, Jews in the Welsh Imagination: From Medieval Times to the Present. Mae'r llyfr newydd arloesol hwn yn datgelu sut mae Cymru wedi dychmygu, cynrychioli, a ymgysylltu â'r Iddewon ac Iddewiaeth dros fwy na wyth canrif. O farddoniaeth canoloesol a brwdfrydedd cenhadol cynhenid i geo­wleidyddiaeth y unfed ganrif ar bymtheg a dadleuon cyfoes am hunaniaeth a chenedlaetholdeb, mae Abrams yn datgelu edafedd gyfrinachol ond pwerus sy'n rhedeg trwy hanes diwylliannol Cymru. Gan herio rhagdybiaethau ac agor sgwrs newydd, dyma gyfrif newydd sylweddol am berthynas gymhleth Cymru ac Iddewiaeth.