Celf Agored STORIEL

Mae’r Celf Agored yn arddangosfa flynyddol sy’n agored i artistiaid a myfyrwyr 16 oed a hŷn sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru. I ddathlu Storiel yn ddeg oed yn 2026 mae’r arddangosfa yn cael ei gynnal yn y prif oriel eleni, gyda wobr o £1000 i enillydd Gwobr y Detholwr. Y detholwr gwadd oedd Kim Atkinson, a fu’n dethol ynghyd â Jeremy Yates.  Eleni mae 112 o weithiau celf gan 81 o artistiaid gyda cerfluniau, ffilm, ffotograffiaeth, paentio, lluniadu, collage, tecstilau a mwy ymhlith y detholiad.  Mae’r arddangosfa yn ddathliad lliwgar, bywiog o greadigrwydd.

Cofiwch bleidleisio am enillydd ‘Gwobr Dewis y Bobl’, bydd yr enillydd yn derbyn siec o £150, wedi gyflwyno yn garedig gan Gyfeillion Storiel.

  • Gwobr y Detholwr: £1000
  • Gwobr Dewis y Bobl: £150 (Ei gyflwyno gan Cyfeillion Storiel)
  • Dyddiadau Arddangosfa: 17.01.2026 – 21.03.2026

Enillydd gwobr y detholwr eleni yw Paul Williams gyda ei ddarn ‘Echoes of Room No. 9’.

“Rwy’n fyfyriwr BA Celfyddyd Gain yn fy nhrydedd flwyddyn ym Mharc Menai, Bangor, gyda phractis sy’n canolbwyntio ar bortreadau, gwneud marciau, a thechnegau grid. Rwy’n angerddol am ddal pobl, yn enwedig trwy luniadu a phaentio, ac yn aml rwy’n gweithio ar arwynebau mawr, wedi’u hadeiladu â llaw sy’n caniatáu imi archwilio manylion ac emosiwn yn fanwl. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae fy ngwaith wedi canolbwyntio ar ddefnyddio gridiau a marciau ailadroddus i ail-greu delweddau’n araf, gan gydbwyso cywirdeb â greddf.

Mae fy llun Echoes of Room No. 9 yn adlewyrchu’r dull hwn. Wedi’i greu mewn pensil, mae’n dal eiliad dawel o fy ngwraig yn gwneud paned o de mewn ystafell westy. Gan ddefnyddio’r dull grid, adeiladais y ddelwedd bloc wrth floc, gan ganiatáu i’r olygfa gyffredin ddatblygu gyda meddalwch ac eglurder emosiynol. Mae’r darn yn tynnu sylw at fy niddordeb yn y ffordd y gall ystumiau bach, bob dydd gario arwyddocâd personol dwfn.”

Paul Williams

2025:

Eleni rhoddir gwobr Dewis y Detholwr i Ella Owen am ei gwaith ffotograffiaeth ffilm ‘Drift’ a ‘Facade’

Mae gwobr Dewis y Bobl 2025, sy’n cael ei rhoi gan Cyfeillion Storiel, wedi’i hennill gan Vasilis Politis am ei waith, ‘Chwarel Penrhyn’.

2024:

Eleni rhoddir gwobr Dewis y Detholwr i Morgan Griffith am ei waith gyfrwng cymysg ‘A Descent into the Maelström

Morgan Griffith:

“You have had a good look at the whirl now,” said the old man, “and if you will creep round this crag, so as to get in its lee, and deaden the roar of the water, I will tell you a story that will convince you I ought to know something of the Moskoe-ström.”

Edgar Allen Poe 1841

Gall y corff newydd hwn o waith, a ddechreuwyd fis Medi diwethaf, 2023, fod yn debyg i ddechrau newydd i’r rhai sy’n gyfarwydd â fy ymarfer celf.
I mi, mae’r trawsnewid yn llwybr yn ôl i’r dechrau. I beintio. I’m gwreiddiau fel peintiwr.

Mae collage yn parhau i fod yn rhan bwysig o’m hymarfer fel Artist.
Yn y blynyddoedd ers i mi raddio yn 2003, rwyf wedi trawsnewid rhwng collage a phaentio, gan gyfuno’r ddau yn aml yn y gwaith.
Peintio dros ardaloedd penodol, neu grafu eraill i ddatgelu hen arwynebau a grëwyd dros amser ac ymgorffori’r marciau cudd hyn mewn gwaith newydd.

Mae ‘A Descent into the Maelström’, ynghyd â darnau eraill o waith yn y gyfres hon yn cynrychioli egni newydd yn fy mhroses ac yn wir fy hwyliau i, ar ôl blynyddoedd o ddelio â fy iechyd meddwl.
Mae’r twneli, pyrth a gwagleoedd yn cynrychioli ffordd allan, iachawdwriaeth. Ffordd yn ôl o’r dibyn.

“Collage is the noble conquest of the irrational, the coupling of two realities, irreconcilable in appearance, upon a plane which apparently does not suit them.”

Max Ernst


2023

Eleni rhoddir gwobr Dewis y Detholwr i Toria Collins am ei gwaith tecstil ’Cynefin Coll / Lost Belonging’.

Yn ogystal, cafodd pum artist arall hefyd eu Cymeradwyo.

Mae Toria Collins yn cymryd ysbrydoliaeth o olygfeydd yng ngogledd Cymru. Wrth archwilio technegau hynafol o uno brethyn, paentio â llaw, defnyddio chwistrell ac offer modern mae Toria yn ymarfer ei sgiliau proffesiynol i ddod a ffabrig yn fyw. Mae ei gwaith yn ceisio cydio yn y rhythmau mwyn a’r cytgordiau a welir yn nhirwedd Cymru.

Cofiwch, pan fyddwch yn ymweld â’r arddangosfa yn Storiel, cewch bleidleisio dros eich hoff waith celf chi all wedyn fod yn gymwys am wobr Dewis y Bobl, rhodd gan Gyfeillion Storiel.


2022

🎉 Llongyfarchiadau JONATHAN RETALLICK, Ennillydd Gwobr y Detholwyr cystadleuaeth Agored STORIEL 2022!
Diolch yn fawr iawn i Lisa Eurgain Taylor am fod ar ein panel fel y detholwr gwadd y flwyddyn hon.