Agored STORIEL

Mae ceisiadau Agored Storiel 2024 bellach ar agor!

Mae’r Agored gelf flynyddol yn arddangos gweithiau celf amrywiol gan gynnwys paentiadau, ffotograffiaeth, gwaith argraffu, gwaith tecstil a cerameg, a’r amrywiaeth yma o ymarfer celf sy’n gwneud yr arddangosfa hon mor ddifyr.

Ffurflen gais:

2023

Eleni rhoddir gwobr Dewis y Detholwr i Toria Collins am ei gwaith tecstil ’Cynefin Coll / Lost Belonging’.

Yn ogystal, cafodd pum artist arall hefyd eu Cymeradwyo.

Mae Toria Collins yn cymryd ysbrydoliaeth o olygfeydd yng ngogledd Cymru. Wrth archwilio technegau hynafol o uno brethyn, paentio â llaw, defnyddio chwistrell ac offer modern mae Toria yn ymarfer ei sgiliau proffesiynol i ddod a ffabrig yn fyw. Mae ei gwaith yn ceisio cydio yn y rhythmau mwyn a’r cytgordiau a welir yn nhirwedd Cymru.

Cofiwch, pan fyddwch yn ymweld â’r arddangosfa yn Storiel, cewch bleidleisio dros eich hoff waith celf chi all wedyn fod yn gymwys am wobr Dewis y Bobl, rhodd gan Gyfeillion Storiel.

2022

🎉 Llongyfarchiadau JONATHAN RETALLICK, Ennillydd Gwobr y Detholwyr cystadleuaeth Agored STORIEL 2022!
Diolch yn fawr iawn i Lisa Eurgain Taylor am fod ar ein panel fel y detholwr gwadd y flwyddyn hon.