Cynllun Casglu

Mae’r Cynllun Casglu yn fenthyciad di-log i’ch helpu i brynu celf a chrefft cyfoes yng Nghymru. Maent yn cynnig benthyciadau o rhwng £50 a £5,000 i bobl sy’n dymuno prynu darn unigol o gelf neu nifer o weithiau celf gan artistiaid byw yng Nghymru.

Nid yn unig mae’r Cynllun Casglu yn rhoi cyfle i bawb fod yn berchen ar gelf a chael ei mwynhau, ond mae hefyd yn cynorthwyo drwy gefnogi artistiaid Cymru a’r orielau sy’n arddangos eu gwaith, gan arwain at fyd celf ffyniannus yng Nghymru.

Wedi i chi weld darn o gelf yr hoffech ei brynu, gofynnwch i staff yr oriel ynglŷn â gwneud cais am fenthyciad Cynllun Casglu. Fe fyddan nhw’n gallu llenwi’r ffurflen gais gyda chi a’i hanfon i Cyngor Celfyddydau Cymru.

Ar ôl cwblhau’r gwiriadau angenrheidiol, fe ddaw Cyngor Celfyddydau Cymru mewn cyswllt â chi i ddweud os yw eich cais am fenthyciad wedi bod yn llwyddiannus. Os felly, byddant yn anfon eich cytundeb benthyciad wedi’i gymeradwyo atoch, ac fe allwch chi ddefnyddio’r cytundeb hwn wedyn i gasglu eich darn o gelf o’r oriel.

 

Manylion y benthyciad

Mae benthyciadau’r Cynllun Casglu yn gytundebau credyd di-log, a gall preswylwyr y Deyrnas Unedig fenthyg rhwng £50 a £5,000 tuag at gost darn neu ddarnau o gelf a chrefft gan artistiaid byw yng Nghymru.

  • Dim ond 10 y cant o flaendal sydd angen i chi dalu ymlaen llaw
  • Bydd benthyciad y Cynllun Casglu yn cael ei ad-dalu mewn rhandaliadau misol drwy ddebyd uniongyrchol
  • Y cyfnod mwyaf ar gyfer ad-dalu benthyciad Cynllun Casglu yw 12 mis
  • Yr ad-daliad misol lleiaf yw £10
  • Fe allwch chi brynu sawl darn o waith celf gan sawl oriel hyd at uchafswm o £5,000 o drothwy cyfleuster credyd
  • Mae benthyciadau ar gael i breswylwyr y Deyrnas Unedig sy’n 18 oed neu hŷn ac sydd â chyfrif banc neu gymdeithas adeiladu sy’n gallu gweithredu Debyd Uniongyrchol.
  • Fel arfer, caiff benthyciadau’r Cynllun Casglu eu cymeradwyo o fewn 7-10 niwrnod
Mae mwy o fanylion, telerau ac amodau i’w gweld yma: