Cyfeillion Storiel

Cyfeillion Storiel

Os hoffech chi ymuno â Chyfeillion Storiel, cysylltwch â’r Ysgrifennydd Aelodaeth [email protected]

Dim ond £ 10 y flwyddyn yw’r tanysgrifiad a gallwch chi gofrestru gyda’ch teulu cyfan am £ 12. Os ydych chi’n ddi-waith, dim ond £ 5 ydyw.

Am y tanysgrifiad hwn byddwch yn dod yn rhan o grŵp o bobl sy’n ymroddedig i helpu i godi proffil Storiel, i gynyddu ei rôl yn y gymuned leol ac i adrodd hanes diddorol ein hardal.

Mae gan y Cyfeillion dwy gyfres o sgyrsiau amser cinio bob blwyddyn, yn aml yn ymwneud â’n casgliadau ein hunain, weithiau ar bynciau hanesyddol ehangach mewn cysylltiad â rhai o’r arddangosfeydd dros dro a gynigir gan Storiel. Hefyd, mae gennym ddigwyddiadau hel arian, yn enwedig Parti Nadolig ddechrau mis Rhagfyr, gyda gwerthiant llyfrau a chofroddion eraill.

Rhoddir yr arian a godwn i Storiel i dalu am gynnal a chadw gwrthrychau a phaentiadau hanesyddol, i brynu celf newydd, i wella’r arddangosfeydd a helpu’r weinyddiaeth. Mae’r aelodau hefyd yn gweini lluniaeth mewn agoriadau celf, yn darparu’r arian ar gyfer gwobrau ac ar gyfer prynu planhigion ar gyfer yr ardd.