Ymweld

Taith weledol-compressed

Gweld ar fap

Yn ninas Bangor y mae STORIEL (Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor gynt). Dyma amgueddfa ac oriel sirol Gwynedd ac mae’n un o ddwy amgueddfa sy’n cael eu rhedeg yn uniongyrchol gan Adran Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd (Gwasanaeth Treftadaeth a’r Celfyddydau). Mae gan yr amgueddfa a’r oriel raglen fywiog o arddangosfeydd dros dro, cynhelir digwyddiadau arbennig yno ac mae yn yr amgueddfa arddangosfa barhaol o gasgliadau sy’n ymwneud â gwahanol agweddau ar fywyd yng Ngwynedd trwy’r oesoedd. Mae yno siop roddion hefyd.

STORIEL
Ffordd Gwynedd,
Bangor,
Gwynedd,
LL57 1DT

Ffôn: 01248 353 368
[email protected]
www.storiel.org

Mynediad

Am Ddim

Oriau Agor:

11-5, Mawrth – Sadwrn

Taith weledol

Os hoffech weld Storiel cyn ymweld, gallwch lawrlwytho ein Taith weledol ar ffurf PDF.
Edrychwyn ymlaen i’ch croesawu!

Dolenni Cyfryngau Cymdeithasol

Storiel ar Twitter

a facebook @STORIELbangor

Gwefan Cyfeillion Amgueddfa ac Oriel Gwynedd

Cyrraedd yr Amgueddfa a’r Oriel

Trên
Gorsaf reilffordd Bangor yw’r agosaf. Mae ar Ffordd Caergybi, (LL57 1LZ), gwaith cerdded o tua 10 munud. Fel rheol, mae tacsis ar gael yn yr orsaf. Mae maes parcio NCP yn yr Orsaf. Os hoffech ragor o wybodaeth am yr orsaf, dilynwch y ddolen hon.

Bws
Mae’r safle bws agosaf ar Ffordd Gwynedd, tua 200 metr o’n prif fynedfa. I gael gwybodaeth ar-lein am drafnidiaeth gyhoeddus, dilynwch y ddolen hon.

Parcio i bobl anabl
Mae dau fae parcio ar gyfer pobl anabl y tu allan i’n prif fynedfa. Mae’r rhain tua 25 metr o’n prif fynedfa.

Car
NID OES gan yr amgueddfa ac oriel lefydd parcio cyhoeddus. Mae nifer o feysydd parcio cyhoeddus gerllaw. Mae’r rhain yn cynnwys:
Maes Parcio Aml-lawr Canolfan Siopa Deiniol (200m o’n prif fynedfa). Mae 120 o lefydd yn hwn, 7 lle i bobl anabl.
Maes Parcio Talu ac Arddangos Cyngor Gwynedd (o’r enw Canondy) ger y llyfrgell ar Ffordd Gwynedd. 38 o lefydd, 2 le i bobl anabl. Tymor byr. Ar agor 24 awr ond mae cyfyngiad ar uchder. Dyma ddolen i feysydd parcio eraill y mae Cyngor Gwynedd yn eu rhedeg ym Mangor;

Dyma ddolen i holl feysydd parcio Bangor;

Beiciau
Rydym yn agos iawn at lwybr seiclo Lôn Las Menai. Mae gennym bedair rheilen feiciau sy’n gallu dal hyd at 8 beic. Maent yn agos at y brif fynedfa. Ni allwn warantu diogelwch y beic tra bydd ar ein tir ni.