Datganiad Hygyrchedd

Datganiad Hygyrchedd

“Nid yw’r datganiad hygyrchedd yn cynnwys barn bersonol am addasrwydd y lle ar gyfer pobl ag anableddau ond y nod yw disgrifio’r cyfleusterau a’r gwasanaethau a gynigiwn i’n holl ymwelwyr.”

Y Fynedfa
Rydych yn dod at brif fynedfa’r amgueddfa o Ffordd Gwynedd ar lwybr gwastad wedi’i wneud o slabiau gydag ambell ddarn o gerrig afon. Gellir cyrraedd drws yr amgueddfa gan wneud mwy o gylch o’r bae parcio gerllaw i’r drws ffrynt. Mae drysau dwbl y brif fynedfa’n agor i gyntedd bach. Fel rheol, maent wedi’u dal ar agor yn ystod yr oriau agor, sef 11 tan 5, ac mae lled yr agoriad yn 130cm. Mae ail set o ddrysau dwbl, gwydr, sy’n agor yn awtomatig. Mae lled agoriad y drysau dwbl awtomatig yn 120 cm.

Arwyddion
Rydym wedi ceisio codi arwyddion â llythrennau feinyl trwy’r adeilad cyfan. Os oes rhyw arwydd yn aneglur neu’n ddryslyd, cofiwch ddweud wrthym.

Y Dderbynfa
Mae’r drws hwn yn agor i’n prif dderbynfa. Mae hon yn olau braf ac mae desg y dderbynfa’n eich wynebu wrth ddod i mewn. Mae’r siop i’r chwith o’r ddesg ac mae drysau dwbl i’r caffi oddi yno. Mae’r grisiau’n arwain i’r prif orielau celf ac arddangosfeydd yr amgueddfa. O’r dderbynfa, mae gennym doiled sy’n addas ar gyfer dynion a merched ac sy’n cydymffurfio â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd. Mae bwrdd newid babanod yno hefyd. Ar waelod y grisiau, mae bachyn i ddal cotiau ac ambarelau. Yn y dderbynfa, mae blwch cyfraniadau a thaflenni i roi gwybod am atyniadau i ymwelwyr ym Mangor a’r cylch. Pan fyddwn ar agor, mae derbynnydd wrth y ddesg sydd lai na 3m o ddrws mewnol y fynedfa. Mae desg y dderbynfa wedi’i chynllunio i ateb anghenion gwahanol bobl ac mae iddi ddau uchder, 112cm a 78cm. Mae dolen sain symudol ar ddesg y dderbynfa. Holwch os bydd arnoch angen dolen sain i’w defnyddio yn y brif oriel neu’r ystafelloedd cyfarfod.

Y Siop
Mae llawr y siop ar lefel y ddaear. Nid oes modd cyrraedd silffoedd arddangos uchel o’ch eistedd. Mae eitemau’n cael eu harddangos ar unedau annibynnol yn ogystal ag ar silffoedd ac unedau ac mewn casys arddangos o gwmpas ymylon yr ystafell. Mae staff ar gael i helpu. Gellir mynd â choetsh plant bach neu gadair olwyn o gwmpas yr unedau.

Y Caffi
Gallwch fynd i’r caffi o’r siop, trwy ddrysau dwbl i’r chwith o ddesg y dderbynfa. Mae un drws sengl yn mesur 100cm. Mae lle i 28 eistedd yn y caffi ac mae rhagor o le i eistedd y tu allan yn yr haf. Mae gan y byrddau i gyd goesau ym mhob cornel ac mae breichiau gan rai o’r cadeiriau sydd y tu allan. Os oes gennych anghenion deietegol arbennig, soniwch wrth staff y caffi.

Toiledau
Llawr gwaelod
Mae tri thoiled sy’n addas i ddynion a merched ar y llawr daear ac mae modd mynd â chadair olwyn i ddau ohonynt. Mae wyneb gwrthlithro ar lawr y tri ohonynt.

Toiled 1
Mae’r toiled mwyaf ar waelod y prif risiau, trwy’r drysau dwbl o’r brif dderbynfa. Mae’r drws yn 90cm o led. Mae’r ystafell yn mesur 270cm wrth 210cm ac mae’n cynnwys toiled, basn golchi dwylo, dyfais dŵr poeth, peth dal sebon, bin, bin cadachau misglwyf, bin clytiau babanod a bwrdd newid babanod. Mae’r peth dal papur toiled 88cm o lefel y llawr. Mae canllaw byr yn sownd wrth y wal ac mae yno linyn larwm i’w dynnu mewn argyfwng.

Mae Toiled 2 a Thoiled 3 i lawr coridor i’r dde o’r brif fynedfa.

Toiled 2
Gallwch fynd â chadair olwyn i Doiled 2. Mae yno ganllawiau, llinyn larwm i’w dynnu, basn golchi dwylo, sychwr dwylo, bin, bin clytiau babanod a bwrdd newid babanod. Mae’r drws yn 93cm o led ac mae’r papur toiled wedi’i osod ar 91cm o uchder.

Toiled 3
Mae seston toiled, sinc, basn golchi dwylo, sychwr dwylo a bin yn Nhoiled 3. Mae’r drws yn 90cm o led.

Cyfleusterau ar y llawr cyntaf
Mae dau doiled sy’n addas i ddynion a menywod, â llawr feinyl gwrthlithro, ar landin y prif risiau. Mae seston toiled a pheth dal papur toiled, basn golchi dwylo, peiriant dŵr poeth, sychwr dwylo a bin yn y ddau le. Dim ond 87cm o led yw agoriad y drws.

Lloriau
Estyll derw haenog yw lloriau’r prif orielau a’r mannau ymgynnull. Lloriau feinyl gwrthlithro sydd ar y prif risiau a’r landin ac yn y toiledau. Lle bo’r uchder yn newid rhwng ystafelloedd, mae rampiau bach a chanllawiau. Os mai newidiadau bach iawn sydd rhwng uchder dwy ystafell, rhoddir stribed i ddangos hynny ar y llawr wrth fynd trwy’r drws.

Arddangosiadau
Mae’r arddangosiadau yn yr oriel yn cynnwys gweithiau 2D neu 3D ac mae capsiynau â ffont maint 14 ar yr holl ddarnau. Fel rheol, mae gweithiau 2D yn cael eu hongian fel bod y canol ar uchder o 143cm er mwyn i gynifer o bobl ag y bo modd gael eu gweld yn iawn.

Cyrraedd y llawr cyntaf

Lifftiau
Mae’r lifft agosaf at y brif fynedfa ar y dde i’r drws ffrynt. Mae’n mynd â chi i ystafell arddangos gyntaf yr amgueddfa. Mae drws y lifft yn 90cm o led.

Yng nghefn yr adeilad, mae ail lifft sy’n mynd ag ymwelwyr o ail ystafell arddangos yr amgueddfa i’r drydedd gan ddilyn llwybr tebyg i ymwelwyr sy’n dewis defnyddio’r grisiau. Mae drws yr ail lifft yn 96cm o led.

Grisiau
Rydych yn cyrraedd yr orielau celf a’r amgueddfa ar y llawr cyntaf. Mae i’r prif risiau ochr a chanllaw pren wedi’u paentio. Maent wedi’u rhestru, Gradd II ac yn dyddio o tua 1753. Mae canllaw’n rhan o’r grisiau gwreiddiol ond nid ydym wedi gallu gosod canllaw haws i’w defnyddio ar ddwy ochr y grisiau. Mae angen dringo nifer o risiau i gyrraedd y llawr cyntaf – yn gyntaf, mae set o bedair gris yn cyrraedd landin, yna mae troad 90 gradd ac 11 gris arall, landin bychan a throad 90 gradd arall ac yna set olaf o bedair gris cyn cyrraedd y llawr cyntaf. Mae’r landin uchaf yn arwain i’r orielau i gyd – yr orielau celf trwy’r drysau dwbl o’ch blaen ac orielau’r amgueddfa trwy fynedfa lai ar y chwith.

Mae arddangosiadau’r amgueddfa ar y llawr cyntaf a’r llawr daear yn gyfuniad o weithiau mewn casys arddangos gwydr neu bersbecs, yn eitemau’n cael eu harddangos yn agored (fel y dodrefn), ac yn banelau sydd â chyfuniad o ysgrifen ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) a lluniau. Rydym yn ceisio sicrhau bod ffont yr ysgrifen ar y paneli wal hyn yn faint 16 o leiaf, gyda chapsiynau llai yn faint 14. Gellir darparu copi o’r ysgrifen sydd ar y wal mewn print bras os gofynnwch. Bydd pwyntiau clyweledol gyda gwybodaeth ryngweithiol am yr eitemau ar gael yn fuan.

Bydd yn bleser gan y gwirfoddolwyr cyfeillgar yn yr amgueddfa a’r orielau celf eich helpu a rhoi rhagor o wybodaeth i chi.

Nid ydym yn cynnig llwybr sain ar hyn o bryd.

Gall teithiau tywys ar gyfer grwpiau o bobl ag anghenion penodol, yn cynnwys grwpiau o ysgolion a cholegau, gael eu trefnu ymlaen llaw.

Goleuo
Mae golau da, gwastad, yn y dderbynfa a’r siop. Fel rheol, mae golau da, gwastad, yn yr oriel ond weithiau mae angen llai o olau oherwydd anghenion cadwraeth darnau penodol o waith celf. Mae’r grisiau i’r amgueddfa wedi’u goleuo’n dda ond mae’r golau wedi pylu mewn rhai o ystafelloedd yr amgueddfa oherwydd anghenion cadwraeth rhai o eitemau mwyaf bregus yr amgueddfa.

Gwybodaeth ychwanegol
Mae’r holl staff yn cael hyfforddiant sy’n cynnwys ymwybyddiaeth o anableddau a gofal am gwsmeriaid, yn cynnwys dyfarniad WorldHost.

Mae croeso i gŵn cymorth, ond dim cŵn eraill, yn yr amgueddfa a’r oriel.

Rydym yn croesawu awgrymiadau am welliannau i’n gwasanaeth trwy ein llyfrau sylwadau, dros y ffôn, drwy ebost ac ati.