Llogi Gofod


Gofod perffaith i weithio’n greadigol….

Mae gennym ystafelloedd sy’n addas ar gyfer cyfarfodydd, cynadleddau bach, lansiadau, darlithoedd a phartïon.

  • 1 ystafell mawr neu ei rannu yn 3 ystafell fach
  • 2 Deledu Clyfar (Smart TV)
  • Taflynydd
  • Papur a bwrdd ‘fflip’
  • Wi fi Am ddim
  • Hyblygrwydd arddulliau gosod ee Theatr, Cynhadledd, Ystafell Gyfarfod
  • Dwr poeth a mygiau neu dwr oer a gwydrau am ddim

Mae’r ystafelloedd ar gael i’w llogi Dydd Mawrth – Dydd Sadwrn 9:00 – 17:00.

Parcio

Mae gofod cyfyngedig gyda mannau anabl y tu allan i Storiel, ond mae nifer o feysydd parcio talu ac arddangos yn agos atom.

Os hoffech logi ystafell, cysylltwch â thîm y Storiel:

Ebost: [email protected]

Ffôn: (01248) 353368

Cyfeiriad: Storiel, Ffordd Gwynedd, Bangor, Gwynedd, LL57 1DT


Ffilmio a ffotograffiaeth

Os bwriadwch ffilmio neu dynnu ffotograffau yn Storiel at ddefnydd masnachol, mae’n rhaid cael caniatâd ymlaen llaw trwy lenwi’r ffurflen gais isod a’i chyflwyno. Dylid cyflwyno ceisiadau i ffilmio neu dynnu ffotograffau o leiaf bythefnos cyn y dyddiad y bwriedir gwneud hynny os oes modd. Rhaid i aelod o dîm Storiel sydd wedi’i hyfforddi oruchwylio pob gwaith ffilmio a thynnu ffotograffau ar gyfer y wasg yn yr Amgueddfa.

Os oes gennych gwestiynau am arddangosfeydd neu ddigwyddiadau yn Storiel yn awr neu yn y dyfodol, cysylltwch â Storiel ar (01248) 353368 neu Dîm y Wasg, Cyngor Gwynedd ar (01286) 679323.