Blog

Car Gwyllt, Blaenau Ffestiniog

Dysgwch mwy am y car gwyllt yma Gan nad oedd incleins chwarel y Graig Ddy ger y Manod, Blaenau Ffestiniogm yn rhy serth, roedd y gweithwyr wedi dyfeisio dull sydyn o deithio adref. Dyma’r unig le y defnyddiwyd y ceir gwyllt Dyfeisiwyd y car gwyllt gan gof y chwarel yn y 1870au ac fe’i gwnaed… Read more »

Fan Llechen

Dyma enghraifft o ddarn cywrain Roedd y chwarelwyr llechi yn ymfalchio yn eu gallu i drafod llechfaen ac, yn ystod eu horiau hamdden, byddent yn creu llawer o bethau hardd a defnyddiol. Mae gwaith cerfio cywrain ar y lle tân mewn llawer o dai yn ardaloedd y chwareli. Byddai addurniadau fel y ffan yn harddu… Read more »

Copi o Llechi Seryddol Bryn Twrw, Tregarth

Dyma un o dair llechen ymhlith y mwyaf a gofnodwyd, wedi eu dyddio yn 1837. Mae’r rhai gwreiddiol dal i fod yn eu lle o gwmpas y tân. Ffynhonell y ffeithiau seryddol oedd John Williams Thomas (Arfonwyson) 1805-1840. Ganed Arfonwyson yn Rallt, Pentir. Roedd yn fathemategydd o athrylith a ddaeth yn adnabyddus i’r Astronomegydd Brenhinol… Read more »

Llechi Cerfiedig

Lluniwyd y rhan fwyaf o’r cerfiadau hyn yn hanner cyntaf yr 19eg ganrif a chawsant eu dylunio a’u cerfio gan chwarelwyr. Mae’r rhan fwyaf i’w canfod yn Nyffryn Ogwen, neu yng nghartrefi chwarelwyr a fu’n gweithio yn Chwarel y Penrhyn. Maent yn amrywio’n fawr o ran arddull, o gylchoedd cydganol i batrymau “sampler”, i sgorau… Read more »

Llechen Cerfiedig o Gartref John Parry

Gwrandewch at gân “Cyfeillgarwch” a gyfansoddwyd gan John Parry (mae copi o’r gân ar gael) Daeth y llechen hon o gartref John Parry, y cerddor a gyfansoddodd y gân “Cyfeillgawrwch”. Credir i’r gerddoriaeth gael ei cherfio’n arbennig ar gyfer ei le tân

Llechen Ysgrifennu

Dyma beth ddefnyddiwyd mewn ysgolion i ddysgu plant sut i sgwennu Yn 1778, dywedodd Thomas Pennant yn ei lyfr “Tours in Wales” fod 136,000 o lechi ysgrifennu wedi’u gwneud ym Mhorth Penrhyn a’u hallforio oddi yno mewn blwyddyn. Ym Mangor, yn 1880, roedd pum cwmni’n cynhyrchu llechi ysgrifennu. Efallaid mai’r un sydd â’r cofnodion gorau… Read more »

Potyn Melltithio

Darganfuwyd y potyn yma ym mis Hydref 1871 wedi ei gladdu mewn clawdd pridd gan labrwr a oedd yn symud hen ffens ar Fferm Penrhos Bradwen, Penrhosm Caergybi. Mae’n cynnwys Cwpan ddu dolciog oedd hon (neu grochan bach) ac ar yr amser y’i claddwyd, roedd ynddi lyffant byw ac ynddo 40 o binnau (roedd y… Read more »

Bocs Bwyd Chwarelwyr

Rhodd oedd y bocs bwyd yma gan Griffith John Williams (185401933), athro, arolygydd cynorthwyol mwyngloddiau yng ngogledd Cymru ac awdur ‘Hanes Plwyf Ffestiniog’ (1882). Trosglwyddwyd y fasged i ‘Amgueddfa Hynafiaethau Cymreig’ ym 1897. Defnyddiwyd bocsus fel hyn i gario bwyd gweithwyr am y diwrnod ac fe’i defnyddiwyd gan chwarelwyr Ffestiniog c.1860. Roeddent hefyd yn cario… Read more »

Llechen Ymarfer, Aberglaslyn

Mae’n bosibl bod y ddisg lechen denau hon wedi’i hysgyrthu â chlymau trquetra yn dod o Aberglaslyn. Defnyddiwd darnau ymarfer ar gyfer brasluniau rhagarweiniol o fotiffau addurniadol a wnaed gan grefftwyr a oedd yn arbrofi gyda dyluniad a chynllun cyn eu defnyddio mewn metel neu efydd. Efallaid eu bod wedi bod yn rhoi cynnig ar… Read more »