Ffair recordiau gyda dau o gasglwyr a gwerthwyr recordiau mwyaf cyffroes Cymru. Dewch lawr i Storiel i drafod recordiau a cherddoriaeth yn y Caffi dros banad a chacen a chael gafel ar ambell glasir neu darganfod eich hoff record newydd .
Efallai byddai gennych ddiddordeb yn
Erin Hughes
04 July - 26 September 2026Mae’r arddangosfa uchelgeisiol hon yn cyflwyno ei harddull ‘collage’ marmor ffug sy’n cynnwys gweithiau 2D ar raddfa fawr a 'collage' llawr sy’n trochi ac yn amgylchynu’r oriel gyfan.
Toria Cameron
04 July - 19 September 2026Mae Toria Cameron yn artist gweledol lle mae ei hymarfer yn pontio crefft tecstilau cyfoes a chelf gain. Wedi'i hysbrydoli gan dirwedd Cymru, mae'n archwilio syniadau am le, perthyn a chynefin - y cysylltiad dwfn rhwng pobl a'u hamgylchedd.
Pel-droed Ym Mangor: Dathlu 150 Mlynedd
20 June - 05 September 2026Mae Bangor yn dathlu 150 mlynedd o bel-droed yn y ddinas yn 2026. Mae llawer o hanes wedi’i greu yn yr amser hyn, sy’n cynnwys buddugoliaethau enwog a rhediadau cofiadwy mewn cystadlaethau domestig ac Ewropeaidd. Mae’r arddangosfa hon yn rhoi cyfle i chi weld arteffactau a lluniau a cyfle i ddysgu ychydig o’r hanes drwy ddilyn y straeon gan gynnwys rhai o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau’r Clwb. O goliau bythgofiadwy, Cwpanau Cymru, teitlau Cynghrair a nosweithiau bythgofiadwy yn erbyn rhai o’r cewri mwyaf Ewrop, mae'r ddinas hon wedi gweld y cyfan.