I cyd-fynd hefo “Cynefin”, llyfr byr bydd yn cyd-fynd hefo ei ail arddangosfa unigol yn Oriel Môn, bydd yr arlunydd Pete Jones yn trafod ei yrfa trwy profiadau, lleoedd a pobl sydd wedi bod yn bwysig iddo ac sydd wedi dylanwadu ar ei gwaith dros y blynyddoedd.

Archebwch YMA

Dechreuodd Pete Jones ysgrifennu pytiau llenyddol, meddyliau a penillion byr ai gweddu yn themâu cyffredinol fel plentyndod a theulu, bu hefyd yn archwilio’r effaith bosibl ar sut y gallai eu hunaniaeth “Gymreig” fod wedi dylanwadu ar fy nghwaith.

Mae’r llyfr yn cynnwys ystod o waith o 1978 hyd at y presennol. Bydd y sgwrs yma yn gyfle i’r arlunydd drafod gwaith sydd eisoes mewn casgliadau preifat a chenedlaethol. Bydd sgwrs cynefin yn amser craffu ar yrfa hynod diddorol Pete Jones a rhoi cyd-destun mwy cyflawn i’m gwaith.

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Digwyddiad

Lansiad Llyfr: Nathan Abrams

13 June 2026

Ymunwch â'r Athro Nathan Abrams (Prifysgol Bangor) ar gyfer lansiad ei lyfr newydd, Jews in the Welsh Imagination: From Medieval Times to the Present. Mae'r llyfr newydd arloesol hwn yn datgelu sut mae Cymru wedi dychmygu, cynrychioli, a ymgysylltu â'r Iddewon ac Iddewiaeth dros fwy na wyth canrif. O farddoniaeth canoloesol a brwdfrydedd cenhadol cynhenid i geo­wleidyddiaeth y unfed ganrif ar bymtheg a dadleuon cyfoes am hunaniaeth a chenedlaetholdeb, mae Abrams yn datgelu edafedd gyfrinachol ond pwerus sy'n rhedeg trwy hanes diwylliannol Cymru. Gan herio rhagdybiaethau ac agor sgwrs newydd, dyma gyfrif newydd sylweddol am berthynas gymhleth Cymru ac Iddewiaeth.