Os dach chi’n licio’r syniad o darlunio neu baentio mewn grŵp croesawgar a sbardunol – dewch draw! Byddwn ni’n creu mewn awyrgylch hamddenol lle mae croeso i bawb, boed chi’n newydd sbon i gelf neu wedi bod yn darlunio ers blynyddoedd.
Bydd digon o gyfle i fagu hyder a hogi’ch sgiliau, wrth i ni greu trwy arsylwi a dychmygu – weithiau’n fanwl, weithiau’n rhydd. Mae’n addas i bob lefel, a gallwch chi weithio yn eich ffordd eich hun.
Byddwn ni’n trafod pethau fel:
🎨 Lliw, llinell, cyfansoddiad a thôn
🎨 Sut i greu awyrgylch a mynegi syniadau
🎨 Sut i asesu eich gwaith wrth i chi fynd yn eich blaen
🎨 Meddwl yn weledol – dysgu gweld mewn ffordd newydd
Bydd ambell ymarfer strwythuredig, ond hefyd digon o le i archwilio a chael hwyl efo’r broses.
Dewch ag unrhyw offer darlunio neu baentio gyda chi – pensil, brwshis, paent neu fineliners… dim ots os nad oes gennych chi bopeth. Dim ond digon i chi ddechrau.
Dewch efo meddwl agored, bach o chwilfrydedd – a’r awydd i gael sbort efo celf. Dim pwysau – jyst lle i greu, mentro, a joio.
Bydd siaradwyr Cymraeg ar gael i unrhyw un sydd eisiau cyfathrebu’n drwy’r Cymraeg
ARCHEBWCH YMA