Ymweld a’r casgliad o lechi cerfiedig
Cyflwyniad i fy ngwaith
Gweithdy creadigol yn seiliedig ar y casgliad
Fydd cyfranogwyr yn defnyddio cyfryngau gwahanol i greu delwedd gan wneud rhwbiadau gyda creonau cwyr ac ychwanegu lliw. Arbrofi gyda Batic a gwrthydd cwyr
Addas ar gyfer unryw oedran neu allu. Gweithio o lefel medrusrwydd. Gwahaniaethu drwy ganlyniad
Sian Owen
“Mae fy ngwaith yn seiliedig ar y patrymau a welir yn bennaf ar lechi cerfiedig o Ddyffryn Ogwen, lle bu fy nhaid yn hollti a naddu llechi yn chwarel y penrhyn. Argradffiadau yw fy ngwaith yma o rwbiad o’r llechi gwreiddiol, ynghyd a fy ychwanegiadau i mewn amryw gyfrwng yn dehongli’r patrymau a’r gweadau. Teimlaf fy mod yn cyffwrdd o bell olion marciau a grewyd gan chwarelwyr gynt. Mae’r trysorau coll hyn wedi fy ysbrydoli i edrych i mewn i hanes Llechi Cerfiedig Dyffryn Ogwen a gwaith Cymdeithas Archaeoleg Landegai sy’n cofnodi’r llechi yma. Rwyf wedi tyrchu i hanes lleol a sylweddoli’r cyfoeth sydd gennym heb ei gofnodi a’r potensial sydd i gymunedau cyfan ddathlu ac ymfalchio yn hanes ein celf weledol