Daeth geiriau Gerallt Lloyd Owen i feddwl yn y broses y bu’m yn gyflawni dros y flwyddyn aeth heibio, sef ail-weithio hen luniau oedd yn y stiwdio, a chreu rhywbeth newydd ohonynt. Ambell waith mae olion o waith gwreiddiol yn aros, mae eraill yn hollol newydd eu gwedd. Mae neges y gwaith, ar y cyfan, yn aros fel oedd, er fod y byd wedi newid.

Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys gweithiau ar fenthyg gan Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac wedi’u gwneud yn bosibl gan CELF, menter i rannu casgliadau celf gyfoes sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru i gynulleidfa ehangach.