Mae’n bosibl bod y ddisg lechen denau hon wedi’i hysgyrthu â chlymau trquetra yn dod o Aberglaslyn. Defnyddiwd darnau ymarfer ar gyfer brasluniau rhagarweiniol o fotiffau addurniadol a wnaed gan grefftwyr a oedd yn arbrofi gyda dyluniad a chynllun cyn eu defnyddio mewn metel neu efydd. Efallaid eu bod wedi bod yn rhoi cynnig ar syniadau, neu eu bod yn batrymau i’w dangos fel canllawiau hyfforddi ar gyfer prentisiaid. Gallai fod yn ddyluniad ar gyfer darn o emwaith.
Mae’r triquetra, a elwir hefyd yn gwlwm y Drindod, yn symbol gydag arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol dwfn. Ymddangosodd y trquetra Celtaidd mewn gwaith metel a llawysgrifau tua’r 7fed ganrif, yr un amlycaf yn y llyfr Kells, a hefyd ar gerdiadau cerrig. Mae ystyron gwahanol i’r symbol, ond mae pwêr y tri yn thema ganolog. I’r Paganiaid, mae’n symbol o’r dait teyrnas (tir, môr, awyr) yn y traddodiad Celtaidd cylch bywyd genedigaeth, marwolaeth ac ailenedigaeth, ac mewn Cristnogaeth y Tad, y Mab a’r ysbryd Glân
Mae hwn yn dyddio o’r cyfnod canoloesol cynnar pan ledaenodd Cristnogaeth ledled Cymru