Bocs Bwyd Chwarelwyr

Rhodd oedd y bocs bwyd yma gan Griffith John Williams (185401933), athro, arolygydd cynorthwyol mwyngloddiau yng ngogledd Cymru ac awdur ‘Hanes Plwyf Ffestiniog’ (1882). Trosglwyddwyd y fasged i ‘Amgueddfa Hynafiaethau Cymreig’ ym 1897. Defnyddiwyd bocsus fel hyn i gario bwyd gweithwyr am y diwrnod ac fe’i defnyddiwyd gan chwarelwyr Ffestiniog c.1860. Roeddent hefyd yn cario piser pren bychan ar gyfer eu diod