Bydd y trydydd yng nhyfres sgyrsiau artistiad wedi ei ciwradu gan myfyrwyr Cwrs Sylfaen Celf Bangor yn cael ei gyflwyno gan y Cerflynwaraig Angharad Pearce Jones.
Yn wreiddiol o’r Bala, yng Ngogledd Cymru, graddiodd Angharad Pearce Jones gyda BA (Anrhydeddau) Dylunio 3D a Chrefft ym Mhrifysgol Brighton yn 1991 cyn cwbwlhau MA mewn Celf Gain yn Ysgol Gelf Caerdydd yn 1999. Mae hi eisioes yn byw ac yn gweithio yn Sir Gaerfyddin . Mae Gwaith Angharad wedi derbyn Gwobr Celfyddydwr Henry Moore yn 2025 a mae wedi bod yn aelod o Gymdeithas Frenhinol y Cerflunwyr ers rhai blynyddoedd.
Dros gyfnod o 30 mlynedd mae Angharad wedi arddangos yn rheolaidd yn y DU ac yn rhyngwladol ac roedd hi’n prif ciwradyr ddigwyddiadau ar gyfer ‘Cymru yn Ŵyl y Smithsonian’ yn Washington DC, yn 2009. Ei arddangosfa unigol fwyaf hyd yn hyn yw IMPACT/Ardrawiad yng Nhanolfan Celf Aberystwyth yn 2023/24, lle dangoswyd ei dawn fel creawdwr, gweithgynhyrchydd a cerflunydd .Enillwyd y fedel aur mewn celf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2024. Ac yn ddiweddar mae Angharad wedi gosod 2 o gerfluniau newydd ym Mhenygroes, Gwynedd, ar gyfer: Tirluniau Chwareli Llechi Treftadaeth y Byd UNESCO a cherflun parhaol ar gyfer tiriau Crefft Rhuthun.. Ar hyn o bryd mae hi’n cynhyrchu Cofeb Covid Abertawe, mewn cydweithrediad â’r artist gwydr pensaernïol, Catrin Jones ac eleni, prynwyd dau o’i cerfluniau ar gyfer Casgliad Cenedlaethol Amgueddfa Cymru, Caerdydd.
Archebwch tocynnau YMA