Mae LLiFT yn grŵp cymunedol cynhwysol sy’n rhoi’r cyfle i unigolion chwarae neu brofi cerddoriaeth ensemble fyrfyfyr yn rhydd yn rheolaidd ym Mangor, Gogledd Cymru ac i archwilio dulliau rhyngddisgyblaethol ehangach o wneud cerddoriaeth arbrofol.

Mae LLiFT yn croesawu chwaraewyr o bob oed a gallu sydd â diddordeb mewn archwilio llwybrau newydd i gerddoriaeth ac yn pwysleisio nad oes angen unrhyw brofiad blaenorol arnoch i ymuno â’n sesiynau.

Rydym hefyd am annog cynulleidfaoedd newydd i alw heibio’n achlysurol a rhannu’r profiad gyda ni hefyd!

Ein hamcanion yw:

• Bod yn grŵp agored sy’n wynebu’r dyfodol ac yn canolbwyntio ar y gymuned.

• Annog chwaraewyr a chynulleidfaoedd newydd i archwilio cerddoriaeth fyrfyfyr.

• Hyrwyddo gigiau dan yr enw LLiFT a darparu llwyfan perfformio yng Ngogledd Cymru i gerddorion arbrofol o’r ardal leol a thu hwnt.

Mae enw da’r celfyddydau avant yng Nghymru yn cynyddu’n raddol flwyddyn ar ôl blwyddyn a theimlwn ei bod yn hanfodol bod Gogledd Orllewin Cymru yn cael ei chynrychioli’n ddigonol, nid yn unig yn lleol, ond yn rhyngwladol yn y maes hwn.

https://llift.carrd.co/

RHAGFYR : ARCHEBWCH YMA 

EBRILL 2026 : ARCHEBWCH YMA

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Digwyddiad

Lansiad Llyfr: Nathan Abrams

13 June 2026

Ymunwch â'r Athro Nathan Abrams (Prifysgol Bangor) ar gyfer lansiad ei lyfr newydd, Jews in the Welsh Imagination: From Medieval Times to the Present. Mae'r llyfr newydd arloesol hwn yn datgelu sut mae Cymru wedi dychmygu, cynrychioli, a ymgysylltu â'r Iddewon ac Iddewiaeth dros fwy na wyth canrif. O farddoniaeth canoloesol a brwdfrydedd cenhadol cynhenid i geo­wleidyddiaeth y unfed ganrif ar bymtheg a dadleuon cyfoes am hunaniaeth a chenedlaetholdeb, mae Abrams yn datgelu edafedd gyfrinachol ond pwerus sy'n rhedeg trwy hanes diwylliannol Cymru. Gan herio rhagdybiaethau ac agor sgwrs newydd, dyma gyfrif newydd sylweddol am berthynas gymhleth Cymru ac Iddewiaeth.