Sioe ddwyieithog i bobl bach yn seiliedig ar llyfrau Malachy Doyle

Tocynnau:

Sioe Cyntaf: Mali a’r Môr (Sioe pypedau i bobl bach ) 2+ Tickets, Tue, Feb 17, 2026 at 11:00 AM | Eventbrite

Ail Sioe: Mali a’r Môr / Mali and the Sea (Puppet show for little ones) 2+ Tickets, Tue, Feb 17, 2026 at 2:00 PM | Eventbrite

Mewn a mas, mewn a mas: mae’r môr yn dod â phethau ac yn cymryd pethau i ffwrdd. Mae Mali yn gwybod hyn. Mae ei chartref annwyl ar yr ynys yn llawn trysorau wedi’u gadael gan y llanw. Bob dydd, mae Mali, gyda’i doli fach Megan wrth ei hochr, yn gwylio’r môr: yn aros i gwch pysgota Dada ddod adref. Ond un diwrnod, mae’r tonnau’n troi’n stormus, a dydy cwch Dada ddim yn ymddangos. A gall Mali a Megan ddod o hyd i ffordd o ddod ag ef adref? Stori am ryfeddodau’r moroedd mawr i bobl bach yw hon, wedi’i hadrodd yn Gymraeg trwy gân, chwedleua, a phyped waith.

Themau: perthynas gyda byd natur, gwytnwch, perthnasau teuluol

Mae’r sioe yn cynnwys chwedleua ddwyieithiog, pypedwaith, pypedau cysgod a chaneuon gwreiddiol. Mae’n sioe llawn elfennau rhyngweithiol ac yn cynnwys dwy berfformwraig.