Ganed Isabel Adonis yn Llundain i fam o Gymru, Catherine, a thad o India’r Gorllewin, Denis Williams. Roedd hi’n wraig gartref ac roedd yn artist ac ysgrifennwr. Mae ei waith celf bellach i’w gweld yng nghasgliad y Tate. Symudodd i Khartoum yn y Sudan pan oedd hi’n chwech oed a threuliodd ddwy flynedd yno lle cafodd ei dylanwadu gan Gelf Islamaidd. Yn 1959 daeth i fyw yng Ngogledd Cymru a chafodd ei haddysg yn Ysgol Ramadeg John Bright yn Llandudno.

O oedran ifanc arbrofodd gyda thecstilau a gwneud cwiltiau ac yn ddiweddarach symudodd ymlaen i wneud lluniau brethyn a doliau. Yn 2008 daeth o hyd i gynfas ar ochr y ffordd, a chymryd y dylai ddechrau paentio. Cafodd ei dylanwadu gan gelf werin America yn ogystal a mytholeg Gymreig. Mae hi’n caru lliw a phaentio mewn acrylig ac yn defnyddio elfennau collage.

Mae Isabel wedi arddangos yng Nghanolfan Ucheldre ac ym Mostyn, Llandudno. Yn 2024 cafodd ei chomisiynu i greu paentiad ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ac eleni prynwyd ugain o baentiadau arall. Mae’r paentiad a gomisiynwyd, “Going to Africa” ar hyn o bryd yn rhan o’r arddangosfa ‘Portraits and Power’ yn y Llyfrgell Genedlaethol sy’n rhedeg tan 30 Mai 2026.

Yn ogystal â’r gweithiau yn yr arddangosfa, mae gan Isabel waith ychwanegol i’w gwerthu, a ddangosir yma a gellir eu gweld ar gais neu eu prynu’n uniongyrchol gyda Storiel.

 

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Digwyddiad

Lansiad Llyfr: Nathan Abrams

13 June 2026

Ymunwch â'r Athro Nathan Abrams (Prifysgol Bangor) ar gyfer lansiad ei lyfr newydd, Jews in the Welsh Imagination: From Medieval Times to the Present. Mae'r llyfr newydd arloesol hwn yn datgelu sut mae Cymru wedi dychmygu, cynrychioli, a ymgysylltu â'r Iddewon ac Iddewiaeth dros fwy na wyth canrif. O farddoniaeth canoloesol a brwdfrydedd cenhadol cynhenid i geo­wleidyddiaeth y unfed ganrif ar bymtheg a dadleuon cyfoes am hunaniaeth a chenedlaetholdeb, mae Abrams yn datgelu edafedd gyfrinachol ond pwerus sy'n rhedeg trwy hanes diwylliannol Cymru. Gan herio rhagdybiaethau ac agor sgwrs newydd, dyma gyfrif newydd sylweddol am berthynas gymhleth Cymru ac Iddewiaeth.