Agorir yr arddangosfa am 12 dydd, Dydd Sadwrn 4ydd o Orffennaf – mae croeso i bawb.
Mae’r arddangosfa uchelgeisiol hon yn cyflwyno ei harddull ‘collage’ marmor ffug sy’n cynnwys gweithiau 2D ar raddfa fawr a ‘collage’ llawr sy’n trochi ac yn amgylchynu’r oriel gyfan. Wedi’i hysbrydoli gan daith ymchwil i Eglwys Santes Margred ym Modelwyddan- a adnabyddir fel ‘Yr Eglwys Farmor’ mae Hughes yn archwilio themâu o dwyll gweledol ddeunydd, mawredd pensaernïol, a’r tensiwn rhwng arwynebedd a sylwedd. Bydd Hughes hefyd yn arwain gweithdai a sgyrsiau sy’n gwahodd cynulleidfaoedd i ymgolli yn y byd tactil a’r broses sy’n sail i’w hymarfer. Mae’r arddangosfa yn ddathliad o harddwch ersatz a photensial trawsnewidiol deunyddiau â wneir â llaw, wedi’i gefnogi gan Cyngor y Celfyddydau.