Mae Bangor yn dathlu 150 mlynedd o bel-droed yn y ddinas yn 2026. Mae llawer o hanes wedi’i greu yn yr amser hyn, sy’n cynnwys buddugoliaethau enwog a rhediadau cofiadwy mewn cystadlaethau domestig ac Ewropeaidd.
Mae’r arddangosfa hon yn rhoi cyfle i chi weld arteffactau a lluniau a cyfle i ddysgu ychydig o’r hanes drwy ddilyn y straeon gan gynnwys rhai o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau’r Clwb.
O goliau bythgofiadwy, Cwpanau Cymru, teitlau Cynghrair a nosweithiau bythgofiadwy yn erbyn rhai o’r cewri mwyaf Ewrop, mae’r ddinas hon wedi gweld y cyfan.