Cymerwch ran yng Ngŵyl Archaeoleg y DU 2026 yn STORIEL!

Thema Gŵyl eleni yw ‘Archaeoleg a Natur’, felly dewch draw am un o’r sesiynau gyda Indi-Hannah Jones (!) o STORIEL am weithdy anffurfiol o greu pot bach gan ddefnyddio clai ‘air dry’, wedi’i ysbrydoli gan ein casgliadau hynafol.

Gweithgaredd 1: Dysgwch dipyn am wahanol batrymau a fyddai wedi cael eu defnyddio ar grochenwaith o wahanol oesoedd, yng Ngwynedd ac o gwmpas y byd, a cheisiwch ail-greu eich darn bach eich hun gan ddefnyddio clai a’r offer a ddarperir.

Gweithgaredd 2: ‘Ffosileiddio’ natur yn eich clai, trwy argraffu darnau rhydd o natur a fydd yn cael eu darparu. Neu os ydych chi’n teimlo wedi’ch ysbrydoli gan gelf graig, patrymau cerameg, neu gerfiadau llechi; mae croeso i chi gerfio eich dyluniadau eich hun ar ddarn o glai.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu eich lle i osgoi cael eich siomi, a canslwch os nad ydych yn gallu mynychu mwyach. Gweithgareddau i’r teulu oll , bydd angen rhiant neu gwarchodwr hefo’r plant.

Archebu lle yma!