Mae gan y ffair hon, sy’n addas i deuluoedd, lawer o gyfleoedd i chi archwilio eich cysylltiad â byd natur. Bydd y ffair yn brysur gyda:

  • Gweithdy ‘Gelli’ wedi’i ysbrydoli gan siapiau planhigion
  • Teithiau cerdded ym myd natur
  • Gweithgareddau crefft gyda’r Fforwm Ieuenctid
  • Sgyrsiau am warchodfeydd natur
  • Gweithgareddau wedi’u hysbrydoli gan fywyd gwyllt, gan gynnwys helfa rhywogaethau
  • Chwarae gyda chlai – potiau ‘pinch’, gleiniau, botymau a theils gyda phigment a gweadeddau naturiol lleol. Gyda diolch i brosiect Mamaliaid Hudolus Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru
  • Cloddio i mewn i goedwigoedd glaw trofannol
  • Darganfod yr Afon Adda cuddiedig (12:00 a 14:00)
  • A llawer mwy!

Mae trefnydd y digwyddiad yn siarad Cymraeg, mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg neu’r Saesneg yn ystod y digwyddiad yma.

Mae’r ffair wedi’i threfnu fel rhan o brosiect Bangor Gwylltach. Mae hyn wedi bod yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Mae NWWT hefyd wedi derbyn cyllid gan Gyngor Gwynedd i gefnogi’r ffair hon.

Sylwch y bydd ffotograffiaeth yn digwydd trwy gydol y digwyddiad.

Cliciwch yma am fwy o fanylion ac i archebu!