Car Gwyllt, Blaenau Ffestiniog

Dysgwch mwy am y car gwyllt yma

Gan nad oedd incleins chwarel y Graig Ddy ger y Manod, Blaenau Ffestiniogm yn rhy serth, roedd y gweithwyr wedi dyfeisio dull sydyn o deithio adref. Dyma’r unig le y defnyddiwyd y ceir gwyllt

Dyfeisiwyd y car gwyllt gan gof y chwarel yn y 1870au ac fe’i gwnaed o bren, olwyn haearn gantelog ar y blaen, haearn cast gwastad ar y cefn gyda cantel tywys a bar haearn gyda rheolaeth cyfylmder drwy handlen pengliniau’r gyrrwr a oedd yn gweithio fel brêc. Roedd y troli yn rhedeg ar y ddwy reilffordd ganol o’r incleiniau trac dwbl.