Dyma un o dair llechen ymhlith y mwyaf a gofnodwyd, wedi eu dyddio yn 1837. Mae’r rhai gwreiddiol dal i fod yn eu lle o gwmpas y tân. Ffynhonell y ffeithiau seryddol oedd John Williams Thomas (Arfonwyson) 1805-1840. Ganed Arfonwyson yn Rallt, Pentir. Roedd yn fathemategydd o athrylith a ddaeth yn adnabyddus i’r Astronomegydd Brenhinol trwy ei ddyluniadau seryddiaeth. Cafodd ei benodi i swydd yn Aryllfa Greenwich.
Rhoddodd Arfonwyson gasgliad o wybodaeth a phatrymau seryddol i’w ffrindiau Richard a Grace Jones, Bryn Twrw. Defnyddiwyd y patrymau yma gan frodyr Grace, Thomas a William Jones, Chwarelwyr a ffermwyr, a bu iddynt greu’r cerfiadau manwl yma