Fan Llechen

Dyma enghraifft o ddarn cywrain

Roedd y chwarelwyr llechi yn ymfalchio yn eu gallu i drafod llechfaen ac, yn ystod eu horiau hamdden, byddent yn creu llawer o bethau hardd a defnyddiol. Mae gwaith cerfio cywrain ar y lle tân mewn llawer o dai yn ardaloedd y chwareli. Byddai addurniadau fel y ffan yn harddu tai’r chwarelwyr ac mae’r eitemau i gyd yn dangos pa mor fedrus yr oeddent wrth drin llechfaen.