Llechen Ysgrifennu

Dyma beth ddefnyddiwyd mewn ysgolion i ddysgu plant sut i sgwennu

Yn 1778, dywedodd Thomas Pennant yn ei lyfr “Tours in Wales” fod 136,000 o lechi ysgrifennu wedi’u gwneud ym Mhorth Penrhyn a’u hallforio oddi yno mewn blwyddyn. Ym Mangor, yn 1880, roedd pum cwmni’n cynhyrchu llechi ysgrifennu. Efallaid mai’r un sydd â’r cofnodion gorau ohoni yw’r ffatri ym Mhorth Penrhyn y bu’r ffotografydd John Wickens yn tynnu ei luniau. Ar y traeth gerllaw, mae llawer o ddarnau o lechi ysgrifennu i’w gweld heddiw. Roedd y llechi’n ddelfrydol ar gyfer ymarfer llawysgrifen neu dynnu lluniau gan fod modd dileu camgymeriadau