Darganfuwyd y potyn yma ym mis Hydref 1871 wedi ei gladdu mewn clawdd pridd gan labrwr a oedd yn symud hen ffens ar Fferm Penrhos Bradwen, Penrhosm Caergybi. Mae’n cynnwys Cwpan ddu dolciog oedd hon (neu grochan bach) ac ar yr amser y’i claddwyd, roedd ynddi lyffant byw ac ynddo 40 o binnau (roedd y sgerbwd a’r croen yno yn 1871, ond maent wedi’u colli ers hynny). Roedd y gwpan wedi’i gorchuddio â llechen ac roedd enw’r person i gael ei melltithio arni “Nanney Roberts” wedi eu grafu ar bob ochr.
Yn ôl traddodiad melltithiwyd person trwy roi broga byw llawn o binnau i mewn i botyn bach a’i orchuddio hefo llechen hefo enw’r dioddefwr/wraig yn cael ei osod ar ei ben. Claddwyd y cwbl. I chwalu’r felltish roedd yn rhaid i’r dioddefwr ddod o hyd i’r potyn. Ar adegau roedd y broga wedi ei losgi neu foddi, gan wneud chwalu’r felltish yn amhosib.
Y person oedd yn gyfrifol am gofnodi hyn oll ac am gadw’r dystiolaeth oedd AS Ynys Môn, yr Anrhydeddus W.O. Stanley, ac fe ysgrifennodd y cwbl yn Notes and Queries 30