Sgwrs Chwilgar: (Sut i fynd) i mewn ac allan o’r Cabinet?

Mae gweithgaredd celf cyfoes ymgysylltiol yn aml yn cynnwys cydweithio gyda pobl a chymunedau y tu hwnt i furiau orielau. Gall hyn, yn aml, arwain at greu arteffactau/gweithiau celfyddydol – megis sgwrs, perfformiad, ffilm, gwaith sain neu osodiad arall o rhyw fath. Gall hyn fod yn anodd i’w cynnwys neu eu cynrychioli o fewn ‘cabinet’ – boed hwnnw yn gabinet rhithiol (fel gwefan Celf ar y Cyd) neu gabinet go iawn (fel yr un yn Storiel), neu yn wir yn ‘gabinet’ y byd celf yn ei gyfanrwydd.

Mae ein gosodiad, ein perfformiadau, ein wefan a’n cardiau post yn eich gwahodd chi i fod yn rhan o’n Sgwrs Chwilgar sy’n adlewyrchu ar natur a lleoliad celf ymgysylltiol – [sut i fynd] i mewn ac allan o’r cabinet?

Trefnwyd y Sgwrs Chwilgar gan Carreg Creative, gyda:

Utopias Bach: Wanda Zyborska, Lisa Hudson, Lindsey Colbourne, Sarah Pogoda, Siân Barlow, Iain Biggs, Steph Shipley, Gaia Redgrave, Kar Rowson, Irene Gonzalez, Elinor Gwynn, Ellen Davies, Angharad Owen, Catherine,  Audrey West, Sarah Holyfield, Trine Moore, Katie Trent. Cyfranwyr eraill/Other contributors:  Crissi Mills, Iwan Williams, Manon Prysor, Rachel Evans, Rebecca Gould, Nêst Thomas

Am fwy o wybodaeth am y gwaith a’r digwyddiadau:

https://www.utopiasbach.org/celf-ar-y-cyd