Roedd arddangosfa Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam wedi amlygu dau artist ifanc brwdfrydig. Y cyntaf oedd yr artist amlddisgyblaethol Barnaby Prendergast, ennillydd Ysgoloriaeth Dewi Bowen. Yr ail oedd Mia Roberts wnaeth greu dipyn o ddiddordeb ar y Maes gyda’i gwaith uchelgeisiol. Y cysylltiad: mae’r ddau artist yn rhan o sîn sglefrfyrddio Gogledd Cymru.
Ar y 7fed o Fawrth bydd diwrnod o sgyrsiau, ffilm a chelf i ddathlu diwylliant sglefrfyrddio Bangor wedi ei guradu gan y sglefrfyrddiwr a chyfarwyddwr ffilmiau Yannick Hammer. Mi fydd yn trafod y diwylliant gweledol difyr mae ffilmio sîn sglefrfyrddio dros y degawdau wedi bod mewn cofnodi dinas Bangor.
Trefn y Dydd
11.00 – Cyflwyniad i’r diwrnod gan Yannick Hammer
Cyfle i sglefrfyrddio yn y Maes Parcio (wedi ei gau o ddefnydd y cyhoedd)
12-12:30 – Sgwrs gan Rob Parsonson am hanes a chyd destun sglefrfyrddio ym Mangor a Gwynedd
Egwyl
13:00-14:00 – Yannick yn sgwrsio am ei ffilmiau a chofnodi diwylliant sglefrfyrddio Bangor a Gogledd Cymru
14:30-15:00 – Mia Roberts a Barnaby Prendergast yn sgwrsio am eu llwyddiant yn Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam
