Comisiynwyd y Gist Rhyfeddodau hon gan Amgueddfa ac Oriel Gwynedd yn 2015. Cafodd ei chreu gan Emma Hobbins fel rhan o ail-leoli’r amgueddfa i Blas yr Esgob, a elwir bellach yn STORIEL. Ysbrydolwyd y Gist gan gyfoeth casgliad yr amgueddfa a’i bwriad yw dathlu rôl Storiel fel casglwr straeon, atgofion a gwrthrychau o Wynedd gyfan.