Reel Time pnawn o ddylanwadai sinematic a ffilmiau gan Clare Marie Bailey

Yn yr trydydd ar olaf yn y gyfres bydd Clare yn amlinellu ffilmiau penodol sydd wedi siapio ei gweledigaeth artistig a dylanwadu ar ei proses creadigol. Bydd hi’n trafod y gwaith cinetig, yr arweinwyr, a’r mathau o ffilmiau sy’n cysylltu’n dwfn â hi, o sinema arbrofol i’r gwerin arswydus a ffilmiau B or 60au a 70au.

Bydd y prynhawn hefyd yn cynnwys arddangosiadau o ei ffilmiau byr, gan gynnwys Parallel Lives (Bywydau Parallel) casgliad o pytiau breuddwydiol analog sy’n datgelu fel darnau o rhaglenni teledu oi plentyndod sydd eisoes wedi ei hanner cofio. Mae’r gofod ddirgel yma yn bodoli rhwng diffiniadau “hauntological” a swrrealaeth hanesion tylwyth teg gan gynnig cipolwg i realitâu paralel lle mae cof, myth, a dychymyg yn gwrthdaro. Gan gyfuno mewnwelediad personol â thrafodaeth cinetig, mae’r digwyddiad hwn yn cynnig cyfle i weld gwaith Clare ar y sgrin a chlywed yn uniongyrchol gan yr artist am yr ysbrydoliaeth y tu ôl i ei iaith weledol unigryw.

Archebwch YMA

Efallai byddai gennych ddiddordeb yn

Digwyddiad

Lansiad Llyfr: Nathan Abrams

13 June 2026

Ymunwch â'r Athro Nathan Abrams (Prifysgol Bangor) ar gyfer lansiad ei lyfr newydd, Jews in the Welsh Imagination: From Medieval Times to the Present. Mae'r llyfr newydd arloesol hwn yn datgelu sut mae Cymru wedi dychmygu, cynrychioli, a ymgysylltu â'r Iddewon ac Iddewiaeth dros fwy na wyth canrif. O farddoniaeth canoloesol a brwdfrydedd cenhadol cynhenid i geo­wleidyddiaeth y unfed ganrif ar bymtheg a dadleuon cyfoes am hunaniaeth a chenedlaetholdeb, mae Abrams yn datgelu edafedd gyfrinachol ond pwerus sy'n rhedeg trwy hanes diwylliannol Cymru. Gan herio rhagdybiaethau ac agor sgwrs newydd, dyma gyfrif newydd sylweddol am berthynas gymhleth Cymru ac Iddewiaeth.