Addas ar gyfer: Plant rhwng 0-4 oed (rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn)
Rydym yn gyffrous i’ch gwahodd chi a’ch rhai bach i ymuno â ni yn Storiel, Bangor, ar gyfer cyfres hyfryd o sesiynau creadigol a synhwyraidd wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer plant blynyddoedd cynnar a’u teuluoedd neu ofalwyr. Mae ein rhaglen, Dwylo Bach, yn addo profiad bywiog a chyffrous, gan dynnu ysbrydoliaeth o raglen arddangosfa swynol Storiel.
Mae ein sesiynau Dwylo Bach yn llawn profiadau dysgu llawen, wedi’u cynllunio ar gyfer artistiaid bach sy’n awyddus i archwilio eu creadigrwydd mewnol, bod yn chwilfrydig a CHREU! Rydym yn creu amgylcheddau bywiog a gweithgareddau wedi’u hysbrydoli gan raglenni arddangosfeydd ein partneriaid creadigol. Mae’r sesiynau hyn yn cynnig profiadau synhwyraidd a chwaraeus y gall yr holl deulu eu mwynhau.
Sylwch y gall y sesiynau creadigol hyn fynd yn eithaf anniben, felly rydym yn argymell dod â thywel a dillad sbâr gyda chi.
Mae’r sesiynau hyn yn bosibl diolch i gefnogaeth hael ein nawddwyr gronfa Cyfuno wedi ei ariannu gan Llywodraeth Cymru